Chwe Gwlad: Dau newid i dîm rygbi merched Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Lauren Smyth yn dychwelyd fel cefnwr
Mae tîm rygbi merched Cymru wedi gwneud dau newid ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Alban nos Wener.
Lauren Smyth sydd wedi cael ei henwi fel cefnwr, tra bod Lleucu George yn dechrau fel canolwr.
Ymysg y blaenwyr, mae'r blaenasgellwyr Beth Lewis ac Alex Callender yn cyfnewid safle tra bod Manon Johnes yn dychwelyd i'r fainc.
Mae carfan Rowland Phillips yn gobeithio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ar ôl dwy golled yn erbyn Ffrainc a Lloegr a gêm gyfartal yn Yr Eidal.

Tîm Cymru
Lauren Smyth; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Lleucu George, Jess Kavanagh; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Caryl Thomas, Carys Phillips (C), Amy Evans, Gwen Crabb, Mel Clay, Alex Callender, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap.
Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Cerys Hale, Alisha Butchers, Manon Johnes, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Elinor Snowsill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019