Lidl i gynnal arbrawf bagiau plastig yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Lidl, CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae archfarchnad Lidl yn cynnal arbrawf yng Nghymru fel rhan o'r nod i leihau'u defnydd o blastig.

Erbyn 1 Mai, bydd siopau'r cwmni yng Nghymru yn stopio gwerthu bagiau plastig am 9c, wedi iddi ddod yn gynyddol amlwg bod pobl ond yn eu defnyddio unwaith.

Os fydd y cynllun yn llwyddo yng Nghymru, fe fydd yn cael ei ymestyn i weddill y DU yn y gobaith o arbed 2,500 tunnell o blastig bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r arbrawf, a allai gweld dros bum miliwn yn llai o fagiau plastig yn cael eu gwerthu yng Nghymru bob blwyddyn.

Bydd yr archfarchnad yn cyflwyno bagiau cotwm a jiwt fel dewis amgen erbyn yr haf, ac fe fydd bagiau plastig trwchus 38c, a bagiau rhewgell 65c yn dal ar werth.

Fe gafodd Lidl wared ar fagiau tafladwy yn 2017, a bagiau plastig 5c y mae modd eu hailddefnyddio y llynedd - cam, medd y cwmni, sy'n golygu bod 26 miliwn yn llai o fagiau plastig yn cael eu gwerthu yn y DU yn flynyddol.

Mae'r cwmni'n gobeithio ceisio sicrhau 20% yn llai o becynnu plastig ar draws y DU erbyn 2022.

Asesu'r effaith ar ddewisiadau

Dywedodd Christian Härtnagel, Prif Swyddog Gweithredol Lidl GB: "Ar ôl gweld bod ein bagiau plastig 9c yn cael eu defnyddio unwaith yn hytrach na chael eu hail-ddefnyddio, roeddem am edrych sut fyddai modd i ni newid y patrwm hynny.

"Gyda'r treial yma, fe fyddwn yn gallu asesu effaith gwaredu ein bagiau plastig 9c ar ddewisiadau pobl, a'u hannog i ail-ddefnyddio bagiau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig tafladwy, ac rydym yn falch bod Lidl wedi dewis Cymru fel lleoliad ar gyfer cynllun a fydd yn gwella'n dealltwriaeth o ymddygiad cwsmeriaid a'u dewis o fagiau.

"Fe fyddwn yn awyddus i weld beth fydd effaith menter arloesol Lidl a sut fydd yn annog ail-ddefnyddio bagiau plastig."