Teuluoedd plant sy'n cael eu gwahardd 'angen cymorth'

  • Cyhoeddwyd
DisgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 165 disgybl yng Nghymru eu gwahardd yn barhaol yn 2016/17

Mae yna alw am fwy o gymorth i deuluoedd pan mae plentyn yn cael ei wahardd o'r ysgol.

Yn ôl un arbenigwr mae'r profiad yn gallu bod yn "sioc anferth" i deuluoedd, sy'n aml ddim yn gwybod beth i'w wneud nesaf.

Dywedodd mam o ardal Pen-y-bont ar Ogwr nad oedd hi wedi cael unrhyw gymorth pan ddechreuodd hi edrych am ysgol newydd i'w mab wedi iddo gael ei wahardd yn barhaol.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 165 disgybl wedi eu gwahardd yn barhaol yn 2016/17 - 51% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Chwe mis heb ysgol

Dechreuodd ymddygiad mab Liz waethygu pan ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd.

"Fe ddechreuodd e gyda phethau eithaf bach - amharu ar y dosbarth, gwneud synau doniol," meddai.

"Wedyn dechreuodd e godi yn y dosbarth a symud o gwmpas yn amharu ar y plant eraill cyn datblygu i adael y dosbarth yn llwyr, rhedeg o gwmpas yr ysgol - dim parch tuag at yr athrawon".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz bod gwaharddiad ei mab wedi cael effaith ar y teulu cyfan

Cafodd ei wahardd o'r ysgol yn y pen draw ond roedd 'na chwe mis cyn i'w fam ddod o hyd i ysgol arall iddo.

Fe wnaeth y problemau barhau nes iddo gael lle mewn ysgol arbennig, a hynny ar ôl cael diagnosis ADHD.

Yn ôl Liz roedd y cyfnod cyn i bethau wella yn "erchyll", a'r effaith i'w deimlo ar y teulu cyfan.

Bellach mae'r cartref yn llawer hapusach ac mae Liz yn cydnabod bod symud ysgol wedi helpu ei mab, sydd nawr yn 14, ond yn fwy cyffredinol mae'n codi cwestiynau am resymeg y broses o wahardd.

"Mae eich plentyn yn ddrwg iawn yn ein hysgol, ry'n ni'n mynd i'w symud e i rywle arall fel bod e'n broblem rhywun arall... sut mae hynny byth yn helpu'r plentyn?" meddai.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tim Pratt o ASCL Cymru mae nifer y gwaharddiadau parhaol yn parhau'n isel

Dywedodd Dr April May Kitchener, sy'n rhedeg cwmni Siarad Da sy'n gweithio gyda theuluoedd pan mae plant yn eu gwahardd, bod rhai ddim yn cael cymorth addas er bod yna ganllawiau gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhai ysgolion yn well nag eraill am gynnig cymorth bugeiliol i blant, meddai.

"Rydyn ni'n gweld plant gydag ymddygiad heriol achos bod ganddyn nhw anawsterau dysgu yn fwy tebygol o gael eu gwahardd, ond ry'n ni hefyd yn gweld ymddygiad y plant yma'n cael ei oddef i raddau llai, yn enwedig mewn ysgolion sy'n gwthio'n galed iawn i ddangos ei fod yn gwneud yn dda yn academaidd," meddai.

'Weithiau'n angenrheidiol'

Dywedodd Tim Pratt o undeb athrawon ASCL Cymru bod nifer y gwaharddiadau parhaol yn parhau'n isel, gan adlewyrchu pa mor ddifrifol mae ysgolion yn ystyried y cam.

"Mae'r raddfa ar gyfer gwaharddiadau wedi cynyddu ar adeg o bwysau cyllidebol dwys ar ysgolion yng Nghymru," meddai.

"Mae hyn yn ei gwneud yn fwy anodd i ddarparu'r ymyriadau cynnar sy'n atal materion ymddygiad rhag datblygu i bwynt gwahardd, ac mae hyn felly yn fwy tebygol o arwain at gynnydd yn nifer y gwaharddiadau."

Dywedodd ei bod hi weithiau'n angenrheidiol i wahardd yn barhaol er budd disgyblion eraill, tra bod disgyblion sydd wedi cael eu gwahardd hefyd yn gallu elwa o gael dechreuad newydd rhywle arall.