Cynllun prifysgolion i ddenu mwy o bobl ifanc at faes ffiseg
- Cyhoeddwyd
Hybu'r hwyl mewn ffiseg ac annog merched i astudio'r pwnc yn bellach sydd ymhlith amcanion cynllun sy'n gweld myfyrwyr prifysgol yn mentora disgyblion.
Mae myfyrwyr o bum prifysgol wedi bod yn cynnal sesiynau gyda disgyblion TGAU mewn 12 ysgol ar draws Cymru.
Llynedd dim ond un o bob pump o'r rheiny wnaeth gwrs Safon Uwch mewn ffiseg oedd yn ferched.
Dywedodd arweinydd y cynllun ei fod yn bwysig denu mwy o bobl ifanc i'r maes er mwyn helpu datrys rhai o heriau mawr cymdeithas ym myd iechyd, peirianneg a'r amgylchedd.
Yn ôl Dr Chris North o Brifysgol Caerdydd y gobaith oedd "hybu eu hyder a dangos bod cymhwyster mewn ffiseg yn agor llawer o ddrysau".
Mae'r cynllun hefyd yn rhoi profiad i fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth, gyda'r gobaith y bydd rhai yn ystyried dysgu fel gyrfa gan fod prinder athrawon i ddysgu'r pwnc.
Un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe, ble mae Rhydian Williams, myfyriwr 20 oed o Brifysgol Caerdydd, wedi bod yn siarad gyda disgyblion.
Yn ystod ei chwe sesiwn wythnosol yn yr ysgol mae wedi bod yn trafod gyrfaoedd posib all ddilyn o astudio ffiseg ac ymhelaethu ar rai o'r pethau maen nhw'n dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
"Mae'n bwysig gwneud e'n ddiddorol achos os mae'n ddiflas bydd neb moyn ei wneud e," meddai.
"Rwy'n trio gwneud i nhw ddeall hefyd. Ni'n gorfod bod yn synhwyrol felly fi'n dweud wrthyn nhw 'chi'n gorfod bod yn dda gyda mathemateg a ffiseg... ond chi ddim yn gorfod bod yn genius'."
'Agor llygaid disgyblion'
Yn ôl Arwyn Lloyd, pennaeth gwyddoniaeth a ffiseg yn yr ysgol, mae'r cynllun yn "agor llygaid disgyblion i bethau efallai bydden nhw heb ystyried o'r blaen".
"Mae wastad rhai disgyblion sydd efallai heb ystyried pa opsiynau sydd ganddyn nhw efo ffiseg i symud ymlaen gyda gyrfa yn y pwnc felly mae'r cynllun yma wedi helpu ni atynnu rhai o'r disgyblion yna."
Mae Poppy sy'n 14 a Danni sy'n 15 ymhlith y disgyblion sy'n cael eu mentora.
Mae Poppy eisiau dysgu mwy am y pwnc: "Rwy'n credu fi isie gyrfa gwyddoniaeth ac ymarfer corff."
A thra bod Danni'n cytuno bod ffiseg yn draddodiadol wedi cael ei weld fel pwnc i fechgyn, dywedodd bod hynny'n "dechre newid achos mae llawer o ferched wedi cymryd y cwrs".
Un sydd wedi gwneud gyrfa ar ôl astudio cwrs Safon Uwch mewn ffiseg yw Jessica Bruce, enillydd gwobr 'Innovative UK Women in Innovation' sydd bellach yn rhedeg cwmni sy'n defnyddio delweddau 3D i helpu pennu triniaethau i bobl sydd mewn poen wrth gerdded neu redeg.
Fe wnaeth hi gwrs peirianneg yn y brifysgol ar ôl cyfuno ffiseg a mathemateg gyda Ffrangeg a cherddoriaeth yn y chweched ddosbarth yn Ysgol Uwchradd Aberaeron.
"Mae angen i ysgolion annog merched i gymryd y cyfleoedd sydd yna iddyn nhw, ac maen nhw yn bodoli... mae efallai i wneud gyda hyder hefyd."
Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams bod y cynllun mentora yn bwysig er mwyn "chwalu'r rhwystrau" all fodoli i atal pobl ifanc rhag dilyn pynciau fel ffiseg.
Rhaid "ysbrydoli a thanio brwdfrydedd sy'n arwain at ddyfodol newydd, cyfleoedd newydd a gorwelion newydd i'n holl bobl ifanc", meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019