Datblygu côt i amddiffyn pobl ddigartref rhag ymosodiadau
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymdeithasol yn Abertawe wedi datblygu côt ar gyfer pobl ddigartref sy'n eu hamddiffyn nhw rhag cael eu trywanu.
Fe gafodd y dilledyn ei ddatblygu gan gwmni Red Dragon yn dilyn sylw cynyddol i nifer yr ymosodiadau ar bobl sy'n cysgu ar y strydoedd.
Mae'r deunydd yn y gôt hefyd yn amddiffyn rhag llosgiadau, yn cadw'r defnyddiwr yn gynnes a sych, ac yn gallu cael ei ddefnyddio fel bag a sach gysgu.
Ond mae elusen Llamau, sydd wedi cydweithio ar brosiect Roof Coat Bag, yn dweud bod hefyd angen edrych ar atebion hirdymor i'r broblem.
Creu baneri arbennig i archeb ydy prif fusnes y fenter, sydd yn cyflogi pobl ddifreintiedig o fewn cymdeithas.
Ond yn ddiweddar mae'r cwmni hefyd wedi bod yn gweithio ar y gôt, a hynny ar ôl siarad gyda nhw i weld pa fath o bethau sydd eu hangen.
"Gan bod digartrefedd yn fater sydd mor amlwg ym meddyliau pobl nawr, fe wnaethon ni ganfod bod y diddordeb yn cynyddu," meddai Jo Farr, prif weithredwr Red Dragon.
"Yn amlwg dyw e ddim yn ddewis arall yn lle dod o hyd i lety, ond mae'n ffordd o fod yn saff a chynnes heb orfod bod yn gwisgo'n flêr."
Mae nodweddion y gôt hefyd yn cynnwys sach gysgu sy'n agor yn y gwaelod, er mwyn ei gwneud hi'n haws i ferched ei defnyddio wrth fynd i'r tŷ bach.
Mae'r gorchudd dros y pen wedi'i ddylunio i allu cuddio'r wyneb, ac mae'r gwneuthurwyr hefyd wedi dewis lliw du plaen fel nad yw'n rhy amlwg i eraill.
Dywedodd Katie Fitzgerald, rhan o'r tîm sydd yn dylunio a chreu'r gôt: "Ni wedi siarad gyda phobl ddigartref ynglŷn â'r dyluniad.
"Maen nhw wedi cael input gyda lle mae'r pocedi'n mynd, seis y hood, siâp y peth, gwahanol bethau fel y zips 'dyn ni'n defnyddio.
"Ro'n ni'n sôn am ddefnyddio felcro ynddo fe, ond achos o sŵn y felcro, a dyw e ddim yn para'n hir, dyma ni'n defnyddio'r zips.
"Mae e'n got eitha' unigryw."
Fe gafodd rhai o'r cotiau eu profi gan elusen Llamau yn ystod un o'u digwyddiadau 'Cysgu Allan', sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu rhai pobl ddigartref.
"Mae'r gôt yn syniad da achos mae'n cadw pobl sydd gyda dim opsiwn arall ond i gysgu ar y stryd i gadw'n dwym, i gadw'n sych, ac i gadw'n saff," meddai Elin Evans.
"Ond yn fwy hirdymor mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r cymorth yna sydd ei angen ar bobl sydd yn cael y profiad o gysgu ar y stryd i gael rhywle mwy saff i fyw a rhywle mwy priodol i aros."
Bwriad Red Dragon ydy cynhyrchu'r gôt yn fasnachol yn y dyfodol, gyda'r posibilrwydd y gallai gael ei addasu at ddefnydd meysydd fel hamdden awyr agored ac achub mynydd.
'Llenwi bwlch'
Yn ôl Ms Farr, fe allai hyd yn oed gael ei addasu i helpu pobl a phlant mewn ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan drychinebau naturiol.
Ond ar gost o tua £700 yr un, fe fyddai angen dibynnu ar nawdd gan gwmnïau, elusennau a chynghorau i'w dosbarthu i bobl ddigartref.
"Mae mwy o awdurdodau lleol yn edrych ar sut i gysylltu gyda phobl ddigartref sydd yn ymbellhau fwyfwy," meddai Ms Farr.
"Dim ots faint o arian 'dych chi'n taflu at rywbeth, oni bai bod rhywun yn cael y gefnogaeth er mwyn cyrraedd y pwynt ble maen nhw'n gallu ymdopi gyda chael cartref a gallu fforddio talu am gartref, does dim pwynt rhoi tŷ iddyn nhw.
"Felly 'dyn ni yma i lenwi bwlch fel petai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018