Sefydlu menter i ddenu ymwelwyr i Lanymddyfri

  • Cyhoeddwyd
Y Gannwyll - Llanymddyfri
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na obeithion y bydd y ganolfan newydd yn hwb i economi'r ardal

Mae menter gymunedol newydd wedi agor ei drysau'n swyddogol yn Llanymddyfri.

Nod y fenter yw "hyrwyddo hanes lleol a dwyn sylw at brif atyniadau a gweithgareddau lleol".

Mae'r Gannwyll yn amgueddfa ac yn ganolfan wybodaeth i dwristiaid yn yr hen Ganolfan Dreftadaeth yn y dref.

Mae wedi'i henwi i anrhydeddu'r Ficer Prichard, a gyfansoddodd gerddi mewn cyfrol o'r enw Canwyll y Cymry.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan wedi'i henwi ar ôl llyfr poblogaidd y Ficer Prichard

Mae'r ganolfan wedi'i sefydlu gan grŵp o wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr, ac mae'n cynnwys arddangosfeydd hanesyddol a diwylliannol o Lanymddyfri a'r ardal gyfagos.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Hamdden, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae'r Gannwyll yn enghraifft wych o sut yr ydym, fel Awdurdod, yn cefnogi'r gwaith o adfywio cymunedau lleol ac yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, yn enwedig mewn diwydiant mor bwysig â'n diwydiant twristiaeth.

"Daw'r bennod newydd a chyffrous hon ar gyfer yr adeilad hwn yng nghanol y dref yn dilyn ein cyfraniadau diweddar at wella ymwybyddiaeth o Twm Siôn Cati drwy osod arwyddion ychwanegol i'r safle o'r dref."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Y Gannwyll ei hagor yn swyddogol dros y penwythnos

Dywedodd y Cynghorydd Handel Davies, aelod lleol ac un o'r ymddiriedolwyr: "Nod deublyg y fenter gyffrous hon, Y Gannwyll, yw hyrwyddo'n well ein hanes lleol a phwysleisio'r prif atyniadau a gweithgareddau lleol yn Llanymddyfri ac o'i hamgylch er mwyn annog ymwelwyr i stopio ac aros am gyfnod hirach.

"Mae nifer o chwedlau ac enwogion Cymru yn gysylltiedig â'r ardal, o Ogof Twm Siôn Cati i Llywelyn ap Gruffydd Fychan, i Forwyn Llyn y Fan a Meddygon Myddfai, i'r Ficer Prichard a William Williams Pantycelyn.

"Mae'r dref eisoes yn boblogaidd ymhlith pysgotwyr, cerddwyr a beicwyr, ac rydym yn benderfynol y bydd yr ardal odidog hon yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, drwy fentrau megis yr un yma, yn dod yn gyrchfan fwyfwy poblogaidd i dwristiaid a fydd yn rhoi hwb i'r economi leol."