Cymuned yn codi arian i adfer bedd y bardd Gwydderig

  • Cyhoeddwyd
Bedd

Mae pobl Brynaman a'r cylch wedi llwyddo i godi digon o arian i adnewyddu bedd y bardd lleol Gwydderig.

Mae dros 50 o bobl wedi cyfrannu arian at y gost o £1800 i ailgodi'r garreg ar fedd Richard Williams (1842-1917) ac i dwtio'r bedd.

Brodor o Frynaman neu'r Gwter Fawr oedd Gwydderig, a bu'n gweithio fel glöwr am ran helaeth o'i fywyd.

Bu'n gweithio ym mhwll y Gwter a suddwyd ym 1855.

Disgrifiad o’r llun,

Y garreg fedd cyn y gwaith adnewyddu

Fe gafodd ei feithrin fel bardd gan David Lews Moses, ac roedd yn rhan o gylch llenyddol yn Nyffryn Aman wnaeth gynhyrchu sêr fel Watkin Wyn, Gwalch Ebrill a Meurig Aman.

"Roedd e'n un o enwogion y pentref, yn fardd adnabyddus," meddai Sarah Hopkin o Frynaman, sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech i godi arian.

"Roedd cyflwr y bedd wedi dirywio'n enbyd dros y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn ni yn ymwybodol fod pobl yn teithio i ymweld â'r bedd, roedd e'n dipyn o embaras.

"Fe ddaeth John Rees a finne i siarad yng nghanolfan y Mynydd Du, ac fe ddaeth unigolyn arall ynghyd i fynd â'r maen i'r wal, a mynd ati i ddechrau casglu arian."

'Hapus iawn'

Roedd yna ymateb arbennig i'r apêl am arian, yn ôl Mr Rees.

"Tu fewn i ddyddiau, pan ddaeth ffrind i fi Alun Wyn Bevan mewn, tu fewn i'r wythnos, fe godon ni ddigon o arian i ail-wneud y bedd.

"Dwi'n hapus iawn. Dwi'n dod i'r fynwent yn rheolaidd i weld bedd y teulu. Dwi'n browd iawn fel person a hefyd dros y pentref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bedd wedi cael ei dacluso yn gyffredinol fel rhan o'r gwaith adnewyddu

Roedd yna draddodiad llenyddol cyfoethog yn Nyffryn Aman yn sgil prysurdeb y gweithfeydd glo a haearn. Mae Bryan Stephens o Ysgol Farddol Caerfyrddin yn edmygwr o waith Gwydderig.

"Pedair gwaith, enilll yn y genedlaethol, ar yr englyn," dywedodd.

"Roedd yn cael ei gyfri' fel englynwr gorau Cymru. Ond mae pobl yr ardal yn ei gofio fe am ei englynion ffraeth, y rhai ysgafn, rhai y gymuned.

"Canu am y gymuned roedd e'n gwneud, ac yn y pendraw, dyna pam mae'n cael ei gofio."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bedd yn "dipyn o embaras" cyn y gwaith adnewyddu, yn ôl un o'r rhai fu'n helpu i godi arian

Yn ystod cyfnod o galedi, fe deithiodd Gwydderig i America i weithio mewn pyllau glo yn Pennsylvania a thalaith Washington. Bu'n fwyaf cynhyrchiol ar ôl dychwelyd i Gymru yn 1885.

Roedd yn gynganeddwr medrus ac yn englynwr brwd, ac fe enillodd nifer o gystadlaethau lleol a chenedlaethol.

Fe fydd seremoni yn cael ei chynnal ar lan y bedd ym mynwent newydd Gibea am 13:30 brynhnawn Gwener i nodi diwedd y gwaith o adnewyddu'r bedd, gyda chroeso i bawb.