Diwedd cyfnod i GPD Bae Colwyn wedi 35 mlynedd yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Bae Colwyn wedi'r gêm oddi cartref olaf yn Lloegr yn erbyn Market Drayton
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Bae Colwyn wedi'r gêm oddi cartref olaf yn Lloegr yn erbyn Market Drayton

Mike England oedd rheolwr Cymru, Lerpwl oedd pencampwyr Adran Gyntaf Cynghrair Lloegr a'u cymdogion Everton oedd deiliad Cwpan FA Lloegr.

1984 oedd y flwyddyn.

Dyna oedd y flwyddyn hefyd pryd y gadawodd Clwb Pêl-Droed Bae Colwyn system bêl-droed Cymru er mwyn chwarae yn nghynghreiriau Lloegr.

Yn ogystal â phrif dimau Cymru megis Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam roedd nifer o glybiau lled-broffesiynol Cymreig yn chwarae yn Lloegr gan gynnwys Bangor a'r Rhyl.

O dan y rheolwr Bryn Jones fe esgynodd y clwb drwy'r cynghreiriau gan gyrraedd Adran Gyntaf y Northern Premier.

'Tipyn o deithio'

Ond gyda'r clwb ar fin sicrhau dyrchafiad pellach i'r Brif Adran ar ddiwedd tymor 1991-92 daeth y newyddion bod Cymdeithas Bêl-Droed Cymru am sefydlu Cynghrair Cenedlaethol newydd.

Y dewis i'r Bae a'r saith clwb arall lled-broffesiynol oedd yn chwarae yn Lloegr oedd ymuno gyda'r gystadleuaeth newydd neu cael eu gorfodi i chwarae fel alltudion.

Dychwelyd i Gymru wnaeth Bangor a'r Drenewydd gyda'r Rhyl a'r Barri yn dilyn yn ddiweddarach.

Alltudiaeth oedd dewis Bae Colwyn, Casnewydd a Chaernarfon - gyda'r Gwylanod yn chwarae eu gemau cartref yn Northwich ac yna Ellesmere Port.

"Roedd 'na dipyn o deithio ond ar y pryd doeddwn i ddim yn meddwl am hynny," meddai cyfarwyddwr y clwb Dilwyn Roberts, fu'n cefnogi'r Bae ers blynyddoedd lawer.

Disgrifiad o’r llun,

Ffordd Llanelian - cartref Bae Colwyn ers 1984

"Roedda ni'n mynd i gefnogi ein clwb a dim ots lle oedda nhw mi oedda ni yn mynd.

"Mae gennai atgofion hyfryd o gefnogi'r clwb yn mynd yn ôl i pan oeddwn yn hogyn bach a'r clwb yn chwarae ym Mharc Eirias cyn dod i Ffordd Llanelian a lot o lwyddiant yn mynd trwy'r cynghreiriau."

Fe aeth y clybiau alltud a'r Gymdeithas Bêl-Droed i gyfraith ac ar ôl ennill achos yn yr Uchel Lys yn Llundain ym 1995 fe ddychwelodd y clybiau i'w cartrefi traddodiadol.

Bu sawl uchafbwynt yn y blynyddoedd wedi hynny - gemau yn erbyn Blackpool, Wrecsam a Notts County yng Nghwpan FA Lloegr a chyrraedd wyth olaf Tlws FA Lloegr ym 1997.

'Uchafbwynt yn Blackpool'

Ond wedi ymadawiad Bryn Jones yn 2001 bu'n gyfnod anodd i'r Bae ac fe ddisgynodd y clwb o Brif Adran y Northern Premier yn 2003.

Wedi blynyddoedd hesp fe gafwyd adfywiad ac yn sgil dau ddyrchafiad gefn wrth gefn llwyddodd y Bae i gyrraedd Cynghrair Cyngres y Gogledd - un lefel yn is na Wrecsam.

Llwyddodd y Bae i aros yno am bedwar tymor ond yn dilyn dau gwymp gefn wrth gefn mae'r clwb bellach yn Adran Gyntaf y Gorllewin yn Northern Premier.

"I glwb go fach o dre go fach 'da ni wedi bod yn llwyddiannus iawn a dweud y gwir," meddai Dilwyn Roberts.

"Mi wnaetho ni'n eithriadol o dda i aros yn y gyngres am bedair blynedd ac un o'r uchafbwyntiau mwya oedd chwarae yn Blackpool yn y gwpan - dwi'n meddwl y bydd pawb yn cofio hynny."

Ond oherwydd pwysau ariannol fe benderfynodd y clwb, ffurfiwyd ym 1881, i edrych ar yr opsiwn o ddychwelyd i chwarae yng Nghymru.

Pleidleisiodd cyfranddalwyr y clwb o blaid dychwelyd i Gymru ac ar ôl derbyn sêl bendith Cymdeithas Bêl-Droed Cymru fe fydd y Bae yn chwarae ym Mhencampwriaeth newydd y Gogledd y tymor nesaf.

Ffynhonnell y llun, Aled Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Bae Colwyn yn nhymor 2005-06

"Dwi yn meddwl ein bod yn cymryd y penderfyniad ar yr amser cywir," ychwanegodd Dilwyn Roberts.

"Da ni wedi bod yn meddwl yn ddwfn am y peth a tydi hi ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd.

"Dwi yn gobeithio yn y dyfodol y bydd pawb yn gweld er budd y clwb y mae'r penderfyniad wedi ei wneud."

Tydi'r penderfyniad i ddychwelyd i chwarae yng nghynghreiriau Cymru ddim wedi bod wrth fodd pawb sydd yn dilyn y clwb.

'Y gêm olaf'

Y gêm gartref yn erbyn Leek Town yng Nghynghrair Evostik ddydd Sadwrn fydd eu gêm olaf yn chwarae yn Lloegr.

"Mae ambell i rai wedi cymryd y newyddion yn ddrwg iawn ac mae rhai ohona ni wedi bod bach mwy positif," meddai'r cefnogwyr Mark Jones.

"Mae'r cefnogwyr ifanc i'w gweld yn fwy positif ac efallai bod hynny yn beth da i ryw raddau.

"Bydd yn rhaid i ni weld pan fydda ni yn dechrau chwarae sut fydd pethau. Mae'n bennod newydd yn hanes y clwb."

"Mae'n newid mawr i'r clwb a step newydd yn ei siwrne ni a gobeithio y bydd yn llwyddiannus i ni."