Bryn Williams: Bron â mynd yn swog i Glan-llyn ar ôl llond bol o goginio
- Cyhoeddwyd
Mae'n berchen ar dri bwyty efo 100 o staff, wedi gwneud pryd i'r Frenhines ac yn wyneb cyfarwydd ar y teledu - ond bu bron i Bryn Williams roi'r gorau i goginio i fod yn swog yng Nglan-llyn.
Dyna mae'r cogydd yn ei ddweud ar raglen Y Meistri ar Radio Cymru wrth iddo dywys y cyflwynydd Garry Owen o gwmpas ei fwyty Odette's yn Llundain.
Dyma rai o'r sylwadau difyr sydd ganddo i'w dweud yn y rhaglen:
'Ro'n i isho mynd i weithio yn Glan-llyn fel swog'
Unwaith, nes i feddwl newid fy ngyrfa. Roedd o yn 2004 a ro'n i wedi gweithio am bump, chwech neu saith mlynedd yn galed - o Marco Pierre White, i Gaveroche ac wedyn i'r Orrery.
O'n i wedi mynd syth o'r ysgol i goleg, gweithio, syth o goleg lawr i Lundain ac wedyn syth mewn i gegin broffesiynol a mynd o un gegin broffesiynol i llall a dim gwyliau mawr rhwng dim un ac ro'n i'n teimlo bod fi eisiau bach o break.
Hogyn o'r wlad ydw i ac o'n i jest yn gweld pedwar wal yn ganol Llundain ac o'n i jest isho rhywbeth gwahanol ac ro'n i isho mynd i weithio yn Glan-llyn fel swog achos o'n i jest eisiau gweithio tu allan felly neshi feddwl Glan-llyn ydi'r lle i fi achos mae o i gyd tu allan yn dydi.
Ond dwi'n cofio dad yn sôn wrtha i fi "Ti 'di gweithio'n galed i gyrraedd fama, mae gen ti'r sgiliau ti 'di gael dros y byd i gyd, paid â gwastraffu nhw rŵan."
Felly neshi ail feddwl - ond dyna'r unig adeg dwi wedi meddwl faswn i'n hoffi newid fy ngyrfa. O'n i methu gweld lle o'n i'n mynd. Oedd o jest yn bwyd, gweithio, bwyd, gweithio, gweithio, bwyd, gweithio - a chysgu - doedd dim byd arall yn digwydd.
'Ti'n panicio am bob peth - ti'n gobeithio bod digon o bobl yn dod drwy'r drws'
Dydi tŷ bwyta ddim yn dod yn rhad. Neshi roi popeth i mewn iddo fo (i brynu Odette's), bob ceiniog oedd yn fy mhoced, ac yn y banc, gwerthu car, re-mortgageio fflat yn Camden so mae pob dim i mewn iddo fo.
Wythnos gyntaf dwi'n cofio dal y goriadau a meddwl hwn ydi'r keyring drytaf yn fy mywyd.
Ti yn colli cwsg. Ti'n panicio am bob peth. Ti'n gobeithio bod digon o bobl yn dod drwy'r drws, ti'n gobeithio bod digon o bres yn dod i'r banc. Ond i fi nid y pres yn y banc sy'n bwysig ond be' da ni'n cynhyrchu yma fel y teimlad, y cynnyrch, y bwyd ar y plât a'r gwasanaeth gan y staff ac os ydi hynny'n iawn wnaiff bob dim arall ddilyn wedyn.
'Pan dwi adra dwi bach mwy diog yn y gegin a Sharleen sydd coginio fwyaf'
Dwi ddim yn coginio lot adra os dwi'n onest. Sharleen (Spiteri - ei wraig) sy'n coginio fwyaf a dwi'n lwcus achos ma' Sharleen yn gogydd da.
Mae tŷ bwyta yn cymryd gymaint o egni a gymaint ag amser - saith diwrnod yr wythnos, felly pan dwi adra dwi bach mwy diog yn y gegin a hi sy'n coginio fwyaf. Dwi byth adra cyn 10.30 i 11pm... so ma'n gallu bod bach yn boen weithiau ond be' sy'n dda efo bod yn bos fi fy hun yfy allai gymryd amser ffwrdd pan dwi angen cymryd amser i ffwrdd, a gweithio'n galed pan dwi angen gweithio'n galed.
'Y mwya' dwi wedi cael yma ar un amser ydi 23 o Gymry Cymraeg.'
Mae 'na rywun yn siarad Cymraeg yma (yn Odette's) bob dydd. Y mwya' dwi wedi cael ar un amser cinio dydd Sadwrn ydi 23 o Gymry Cymraeg yma - o'n i'n styc yn y tŷ bwyta am awr yn siarad efo pawb neu yn cael paned efo pawb.
Ond mae o mor neis dod mewn i ganol Llundain a chlywed yr iaith Gymraeg mae o'n rhywbeth sbesial iawn mae o'n rili, rili neis - a dyna pam mae bob peth yn Gymraeg a Saesneg yma... mae'r toiledau efo arwydd merched a dynion, mae bwrdd y gegin, kitchen table, mae popeth yn Gymraeg a Saesneg.
Os ti'n mynd i dŷ bwyta o'r Eidal ti'n cael cynnyrch o'r Eidal, mae'r cogydd o'r Eidal... Cymro Cymraeg o Ddyffryn Clwyd... ia dwi'n coginio yn Llundain ond mae elfen Cymraeg yma felly petha' Cymraeg ar y wal, dwi'n siarad Cymraeg a dod allan i siarad efo pobl.
'Nes i adael i ddysgu felly dwi eisiau dod a sgiliau yn ôl fyny - i'r gogledd'
Dwi'n dechrau academi yn Coleg Cambria yn Deeside mis Medi. Dwi eisiau gweld pobl yn llwyddo. Mae mor bwysig cymryd yr amser jest i ddysgu pobl ac i esbonio pam, sut a lle da ni'n neud pethau gwahanol - yn enwedig adra yng Nghymru.
Pan nes i ddod lawr i Lundain 20 mlynedd yn ôl, mewn ffordd roedd rhaid dod i Lundain i ddysgu mewn tŷ bwyta o safon - tydi o ddim yr un peth rŵan. Mae gymaint o lefydd da i fwyta o gwmpas Cymru - gogledd Cymru, yn y canolbarth a lawr yn y de, does dim rhaid gadael adra.
Nes i adael i ddysgu felly dwi eisiau dod a sgiliau yn ôl fyny - i'r gogledd yn bendant, i goleg Cambria - a dysgu be' dwi wedi dysgu. Does dim rhaid gadael adra a gweithio 90 awr yr wythnos a cael eu trin yn ddrwg. Os alla i fynd a sgiliau yn ôl adra fyddai'n hapus iawn.
'Does gennon ni ddim digon o dir a dim digon o fwyd i fwydo pawb yma ym Mhrydain'
Mae'r cynnyrch sy'n dod allan o Gymru yn ffantastig ond be' sy'n digwydd weithiau ydi bod nhw'n rhoi popeth mewn un bwced ac allforio popeth. Mae Brexit am newid hyn - maen nhw'n gorfod arallgyfeirio a thrio cael pethau dramor a phethau yma ym Mhrydain a ma' hwnna'n rhywbeth da - bod nhw ddim am roi popeth mewn bwced a'i yrru fo dim ots lle mae'n mynd.
Un ochr ac elfen o gynnyrch dwi'n gobeithio neith aros ym Mhrydain fwy ydi pysgod. Tyda ni byth yn gallu cael gafael ar bysgod da, ffres, mae môr o gwmpas ni gyd yng Nghymru ond mae'n anodd cael y cynnyrch. Da ni'n gwybod bod y cynnyrch yma ond mae'n mynd dramor.
Dwi di clywed rŵan bod lot o bobl yn trio arallgyfeirio, yn dal i yrru stwff dramor ond cadw mwy yng Nghymru a Phrydain - ac mae hwnna yn ochr da o Brexit... ond y pris...
Fydd y pris yn mynd fyny, bendant... 'sgennon ni ddim digon o dir a dim digon o fwyd i fwydo pawb yma ym Mhrydain - 'da ni'n mewnforio gymaint o fwyd. Be sy'n mynd i ddigwydd, dwi ddim yn gwybod. Mae'n mynd i fod mor anodd.