Dechrau'r gwaith o symud llun Banksy i amgueddfa newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith i symud darn o waith celf Banksy i amgueddfa newydd ym Mhort Talbot wedi dechrau.
Cafodd y gwaith - 'Season's Greetings', sy'n dangos bachgen bach yn chwarae mewn lludw - ei baentio ar ochr garej yn y dref ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mis yn ddiweddarach fe brynwyd y darn gan John Brandler, a gadarnhaodd y byddai'r darn yn cael ei arddangos mewn galeri newydd.
Dywedodd Dave Williams, un o'r contractwyr sy'n gyfrifol am symud y darn ei fod yn "dipyn o her, ond yn her rydyn ni'n edrych ymlaen ato".
Mae tîm o arbenigwyr am geisio cludo'r llun o ardal Taibach i adeilad Tŷ'r Orsaf yng nghanol y dref.
Mae'r wal sydd wedi ei baentio yn pwyso tua 4.5 tunnell ac angen cael ei orchuddio mewn resin cyn ei symud.
Y gobaith yw bod y resin yn caledu ac yn cadw'r briciau yn sownd fel nad yw'r llun yn torri.
Bydd ffrâm bren wedyn yn cael ei defnyddio i gynnal y wal wrth ei chodi.
'Risg uchel'
Yn ôl Mr Williams, dyma'r tro cyntaf i'r cwmni symud darn o gelf.
"Mae'r cynllun sydd gennyn ni yn un da, ond cawsom ni ambell i noson heb gwsg wrth geisio gweithio allan sut yn union roedden ni am ei symud.
"Mae'r risg yn uchel, does neb yn gwybod pa mor gadarn yw'r gwaith cerrig, gall unrhywbeth ddigwydd mewn gwirionedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019