Saethu bwa croes: Achos o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad ar ddyn yn Sir Fôn, a gafodd ei saethu gyda bwa croes, yn dweud eu bod nhw bellach yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth.
Ddydd Sadwrn daeth y newyddion fod Gerald Corrigan, 74, wedi marw o'i anafiadau a gafodd yn y digwyddiad y tu allan i'r gartref ar Ebrill 19.
Roedd wedi cael ei saethu drwy ei frest a'i fraich.
Dywedodd y plismon sy'n arwain yr ymchwiliad, Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney: "Mae heddlu'r gogledd wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth, ond rydyn ni'n parhau i gadw meddwl agored ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Gerald Corrigan."
"Roedd Mr Corrigan wedi dioddef anafiadau gwirioneddol ofnadwy, ac ers hynny roedd wedi dangos dewrder a dycnwch wrth dderbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
"Yn anffodus, bu farw Gerald fore Sadwrn o'i anafiadau, gyda'i deulu wrth ei ochr."
Roedd Mr Corrigan wedi bod yn byw ar Ynys Môn ers 20 mlynedd ar ôl ymddeol fel darlithydd ffotograffiaeth a fideo.
Fore Sul cafodd teyrngedau eu rhoi iddo gan nifer o bobl.
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen yn dweud bod ei feddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.
Ychwanegodd y cynghorydd lleol Trefor Lloyd Hughes bod y gymuned gyfan mewn sioc.
Wrth apelio o'r newydd am wybodaeth a allai eu cynorthwyo gyda'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Corrigan, dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney: "Rydyn ni'n ddiolchar iawn i'r cyhoedd am eu hymateb i sawl apêl flaenorol, ac mae gyda ni swyddogion yn edrych ar y wybodaeth sydd wedi cael ei rannu gyda ni."
"Fe fydd Heddlu'r Gogledd yn parhau i ddilyn sawl trywydd fel rhan o'r ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019