Tri o draethau Cymru yn colli statws Baner Las

  • Cyhoeddwyd
Bae Whitmore, Y BarriFfynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fydd yna ddim Baner Las yn chwifio uwchben traeth poblogaidd Bae Whitmore yn Y Barri eleni

Mae tri thraeth poblogaidd yng Nghymru wedi colli eu statws Baner Las, am fod anghysonderau wedi bod yn ansawdd dŵr y môr dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y llynedd roedd traethau Aberdaron, Tywyn a Bae Whitmore, sef prif draeth Y Barri, ymhlith 43 traeth a gafodd y statws.

Eleni mae 40 o draethau, tri marina ac un cwmni teithiau cychod cynaliadwy wedi cael y Faner Las am safon y dŵr a'u cyfleusterau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nifer o ffactorau a all effeithio ar ansawdd dŵr, gan gynnwys glaw trwm.

Ers dros dri degawd, mae'r Faner Las wedi cael ei defnyddio er mwyn ceisio pwyso ar awdurdodau lleol a chyrff eraill i wella ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, amddiffyniad, diogelwch a gwasanaethau.

Yn ôl Cadw Cymru'n Daclus mae "amrywiaeth rhwng dosbarthiadau dŵr ymdrochi da a rhagorol yn digwydd bob blwyddyn" ac nad yw'n anghyffredin i draeth amrywio rhwng ardderchog a da.

"Gall hyn gael ei achosi gan lawer o wahanol ffactorau," meddai'r elusen, sy'n dweud y byddan nhw'n cydweithio yn y gobaith y gall y traethau adennill eu Baneri Glas yn 2020.

'Siomedig iawn'

Yn 2018 fe lwyddodd traeth Tywyn yng Ngwynedd adennill ei Baner Las ar ôl ei cholli yn 2017.

Ffynhonnell y llun, Meirion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Tywyn yn gyrchfan boblogaidd i filoedd o bobl bob blwyddyn

Yn ôl un cynghorydd lleol, Alun Wyn Evans, mae'r newyddion bod y traeth wedi colli'r statws unwaith eto eleni yn "siomedig iawn".

"Mae pobl sy'n dod i Dywyn isio gweld bod yna Faner Las yma, mae'n sicr yn denu pobl yma, felly dwi'n ofni y bydd hyn yn eu cadw nhw draw.

"Fe glywsom ni ddwy flynedd yn ôl ein bod ni wedi colli'r statws oherwydd bod y gwaith ar y sea defences, o bosib, wedi effeithio ar ganlyniadau'r profion dŵr - ond beth sydd wedi mynd o'i le y tro yma?

"Efallai bod yn rhaid i ni roi o lawr i'r holl dywydd garw 'da ni wedi ei gael yn y flwyddyn ddiwethaf.

"Ond yn sicr mi fydd gofyn i ni wneud popeth nawr i wneud yn siŵr ein bod hi'n ei gael o'n ôl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn wedi derbyn y Faner Las ers sawl blwyddyn bellach

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod llawer o'n traethau yng Nghymru wedi ennill gwobrau arfordirol eleni, nid yw rhai wedi cynnal eu gwobrau.

"Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael ag unrhyw faterion ansawdd dŵr.

"Mae nifer o ffactorau a all effeithio ar ansawdd dŵr, gan gynnwys glaw trwm.

"Er gwaethaf y gostyngiad bach yn nifer y traethau a enillodd wobrau arfordirol eleni, mae gan Gymru fwy o Faneri Glas yn hedfan y filltir nag unrhyw le arall yn y DU."