Ystyried opsiwn i gau tair ysgol gynradd ger Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Beulah
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Ysgol Beulah yn cau os yw'r cyngor yn bwrw ymlaen ag unrhyw un o'r opsiynau sydd wedi eu hargymell

Gallai tair ysgol gynradd yn ardal Aberteifi gael eu cau wedi argymhelliad gan gabinet Cyngor Ceredigion.

Mae'r cabinet wedi argymell ystyried cau ysgolion Beulah, Cenarth a Threwen a sefydlu ysgol newydd fyddai'n gweithredu dros dri safle, sef safleoedd yr ysgolion presennol.

Ar hyn o bryd, mae'r ysgolion mewn "ffederasiwn meddal" gyda'i gilydd - sy'n golygu eu bod yn rhannu pennaeth ond â chyllid a chyrff llywodraethol ar wahân.

Mae'r cabinet hefyd wedi argymell ystyried dau opsiwn arall. Un opsiwn yw cau Ysgol Beulah a lleihau nifer yr ysgolion yn y ffederasiwn a'r llall yw cau ysgolion Beulah a Threwen a chwalu'r ffederasiwn.

Bydd yr argymhellion nawr yn cael eu hystyried gan banel adolygu ysgolion y sir.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lyndon Lloyd y byddai'n rhaid i'r "staff fod yn hyblyg iawn" pe bai 'na ysgol newydd ar dri safle

Doedd y syniad o gau tair ysgol a sefydlu ysgol newydd dros dri safle ddim yn un o'r chwe opsiwn gafodd eu cyflwyno, dolen allanol yn dilyn adolygiad o ysgolion y dalgylch.

Ond cafodd y cynnig ei gyflwyno yn ystod cyfarfod y cabinet dydd Mawrth.

Yn ôl y Cynghorydd Lyndon Lloyd, sy'n cynrychioli'r ardal, byddai ysgol newydd o'r fath yn gallu bod yn llwyddiant.

"Fydd rhaid i'r staff fod yn hyblyg iawn, achos un ysgol fydd hi ar dri safle, felly bydd enw newydd... ac ethos newydd yn perthyn iddi," meddai.

"Ond dwi'n credu byddai honno'n llwyddiannus iawn, ac yn credu mai'r opsiwn 'na yn y diwedd fydd yn dderbyniol i rieni."

Cyn y penderfyniad, rhybuddiodd un cynghorydd y gallai'r pentrefi dan sylw "wywo" pe bai'r ysgolion presennol yn cau.

Ond mae adroddiad i'r cyngor, dolen allanol yn nodi bod canran uchel o lefydd gwag yn yr ysgolion. Yn achos Trewen, mae 62% o gapasiti'r ysgol yn wag, gyda 59% o gapasiti Ysgol Beulah yn wag.

Hefyd mae'r gost o ariannu addysg disgyblion yr ysgolion yn fwy y pen na'r cyfartaledd yng Ngheredigion. Ar hyn o bryd, mae addysgu disgyblion Ysgol Beulah yn costio £7,270 y disgybl, o'i gymharu â £3,777 ar gyfartaledd.

Roedd pwyllgor trosolwg a chraffu cymunedau sy'n dysgu Cyngor Ceredigion wedi ffafrio opsiwn arall, sef cau Ysgol Llechryd ynghyd ag ysgolion Beulah, Cenarth a Threwen, a chreu ysgol ardal newydd ar un safle yn eu lle.

Bydd y panel adolygu ysgolion yn ystyried yr argymhellion ym mis Ionawr. Does dim disgwyl penderfyniad terfynol ar ad-drefnu ysgolion yn yr ardal tan ddiwedd 2018.