Cau llysoedd a dalfeydd yn 'peryglu unigolion bregus'
- Cyhoeddwyd
Mae cau llysoedd a dalfeydd wedi cynyddu'r risg bod pobl fregus o fewn y system gyfiawnder droseddol yn hunan-niweidio, yn ôl gweithwyr yn y maes.
Dim ond 14 llys ynadon sydd yng Nghymru bellach, o'i gymharu â 36 'nôl yn 2010. Mae lleihad hefyd wedi bod yn nifer y dalfeydd sydd gan yr heddlu.
Mae honiadau bod teithiau hirach ac achosion o oedi hir yn gallu achosi straen ychwanegol i rai sydd eisoes â phroblemau iechyd meddwl.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod safleoedd ond wedi eu cau os oedd modd cael mynediad at opsiwn rhesymol arall.
Yn ôl un sy'n gweithio gyda phlant a phobl fregus sydd wedi'u hamau o droseddu, mae'r sefyllfa'n "hurt".
Dywedodd David Morgan bod nifer o bobl yn wynebu teithiau pell mewn faniau heddlu ac yn gorfod aros yn hir cyn gallu gweld cyfreithiwr.
"Mae'n rhaid i garcharorion deithio yn bell ac mae gan rai ohonynt broblemau iechyd meddwl," meddai.
"Gall fod yn or-bryder neu iselder, efallai eu bod nhw ar y sbectrwm awtistig, yn dioddef o PTSD neu â phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau.
"Mae bod mewn cell yn gallu achosi i rai brofi clawstroffobia - sydd wedyn yn arwain at hunan niweidio.
"Mae'r llysoedd a'r dalfeydd yn yr ardaloedd anghywir, ac mae hyn wir yn effeithio ar fywydau pobl."
Mae Katy Hanson yn gyfreithiwr i gwmni Welch & Co yn Aberteifi. Fe gaeodd y llys ynadon yno yn 2011 ac mae hi bellach yn gorfod teithio 40 milltir i gyrraedd y llys neu'r ddalfa agosaf yn Aberystwyth.
"Dyw'r teithio nid yn unig yn effeithio ar y diffynyddion a'r rhai sy'n mynychu'r llysoedd, ond hefyd y rhai hynny sy'n dod i'r llys er mwyn rhoi tystiolaeth," meddai.
"Pobl sydd ag incwm cyfyngedig neu sydd ag anawsterau sydd yn aml iawn yn dod yn rhan o system y llysoedd."
Moderneiddio
Dywedodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi eu bod yn buddsoddi £1bn i foderneiddio'r system gyfiawnder er mwyn ei gwneud yn haws i'w ddefnyddio.
"Rydyn ni'n symud mwy o wasanaethau ar-lein ac mae'r manteision i'w gweld yn barod," meddai llefarydd.
"Fe wnaeth 150,000 o ddefnyddwyr ddweud eu bod yn hapus iawn â'r gwasanaeth y llynedd.
"Hyd yma, mae'r llysoedd sydd wedi cau wedi bod yn rhai oedd ddim yn cael eu defnyddio, yn adfeiliedig neu yn rhy agos at lys arall.
"Nid yw'r penderfyniad i gau llys yn un hawdd, a dyw hyn ond yn digwydd pan mae opsiwn rhesymol arall ar gael a'n bod wedi trafod gyda'r cyhoedd."
Wrth drafod dalfeydd, dywedodd y Swyddfa Gartref mai mater i brif gwnstabliaid yw hyn a bod y gyllideb ar gyfer plismona wedi cynyddu'n sylweddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019