'Gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn wynebu pryder a straen'

  • Cyhoeddwyd
Gofalwyr CymruFfynhonnell y llun, Gofalwyr Cymru

Dywed elusen Gofalwyr Cymru bod angen cymorth brys ar ofalwyr di-dâl yng Nghymru wrth i ffigyrau newydd ddangos bod gofalwyr yn llai hapus na gweddill y boblogaeth.

Mae'r ffigyrau yn dangos bod nifer y gofalwyr sy'n oedolion yng Nghymru wedi codi i 400,000 - cynnydd o 8% o'i gymharu â 370,000 yn 2011.

 hithau'n Wythnos Gofalwyr, mae saith elusen ar draws Prydain yn galw am newid mawr yn y ffordd mae cymdeithas yn cefnogi'r rheiny sy'n gofalu'n ddi-dâl am deulu a ffrindiau.

Mae gwaith ymchwil newydd yn dweud bod gofalwyr yng Nghymru deirgwaith (39%) yn llai bodlon ar fywyd, a theirgwaith yn llai hapus (37%) o'i gymharu â gweddill poblogaeth Cymru.

Dywed hefyd eu bod nhw ddwywaith yn fwy pryderus o'i gymharu â gweddill y boblogaeth.

Disgrifiad,

Sut beth yw bod yn ofalwr ifanc?

Stori Jasmine

Mae Jasmine, 15, wedi bod yn edrych ar ôl ei mam yng Ngharmel ger Caernarfon ers tua chwe blynedd.

Wrth siarad â Cymru Fyw: "Dwi a fy chwaer sy'n 10 oed yn rhannu'r gwaith o edrych ar ôl Mam a'n brawd bach Emrys sy'n chwech oed.

"Dwi a fy chwaer yn codi bob bore yn ystod yr wythnos am 05:30 ond ar benwythnosau 'da ni'n aros yn y gwely tan 07:00.

"Mae 'na lot i'w wneud - yn bore 'da ni'n golchi llestri, g'neud y tân, sortio'r ailgylchu a'r biniau a rhaid i ni helpu Mam i ddeffro.

"Rhaid ni gael dillad Mam yn barod a g'neud yn siŵr fod popeth yn iawn iddi nes bo' ni'n dod adref. Dwi'n dal y bws ysgol tua 07:10.

"Dwi mor falch bo' fi'n gallu helpu Mam ond mae'n gallu bod yn waith blinedig ar ben gwaith ysgol.

"Dwi'n g'neud TGAU Blwyddyn 10 ar y funud - ac erbyn g'neud y gwaith tŷ mae hi'n eithaf hwyr cyn bo' fi'n gallu adolygu.

"Mae'r jyglo yn gallu bod yn anodd.

"Dwi'n eitha' lwcus mae'r ysgol lle dwi rŵan yn deall be' sy'n mynd ymlaen - ond yn gyffredinol dwi'n teimlo bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth."

'Prowd iawn o'r ddwy'

Roedd Sarah mam Jasmine, Ruby ac Emrys yn arfer bod yn ofalwraig ifanc ei hun gan iddi hi hefyd edrych ar ôl ei mam.

Dywedodd: "Mae angen creu mwy o ymwybyddiaeth ond mae pethau lot gwell. Pan ro'n i'n ifanc doedd 'na neb yn gwybod dim nac yn poeni sut fywyd oedd gen i fel gofalwr.

"Dwi mor falch o'r merched a'r hyn maen nhw'n g'neud.

"Weithiau dwi'n cael diwrnodau ofnadwy lle dwi'n chwydu'n ddi-stop a rhan o waith y merched yw golchi'r sick bowl.

"Dwi'n trio siopa ar-lein, os nad ydw i'n gallu g'neud mae Jasmine yn g'neud, a hi a Ruby sy'n paratoi'r bwyd.

"Dwi'n prowd iawn iawn o'r ddwy ac yn falch o'u cefnogaeth ond dwi wir yn meddwl bod angen i'r cyhoedd wybod mwy am yr hyn y maen nhw'n gorfod ei wneud i fi.

"Bydden i'n hoffi hefyd petai mwy o gyllid ar gael i wneud petha'n well i ofalwyr ifanc."

Gydag un o bob chwech o oedolion yng Nghymru bellach yn darparu gofal di-dâl, mae saith elusen wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at yr angen brys i wella llesiant ymhlith gofalwyr, "sy'n llawer rhy aml, yn rhoi anghenion eraill yn gyntaf".

Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru: "Gyda'r boblogaeth o ofalwyr yn parhau i gynyddu ledled Cymru, ac un o bob chwech o oedolion yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl erbyn hyn, mae'n hen bryd i'n cymdeithas gydnabod a gwerthfawrogi'r gefnogaeth hanfodol maen nhw'n ei darparu.

"Yn aml dyw gofalwyr ddim yn gallu dod o hyd i wybodaeth a'r gefnogaeth hanfodol i'w galluogi i gael bywyd y tu allan i ofalu, ac i gysylltu â'u cymunedau lleol."

Nodwyd hefyd bod prinder amser, neu arian, i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, yn ogystal â'r stigma o fod yn ofalwr, yn golygu bod un o bob tri o ofalwyr di-dâl yng Nghymru (37%) yn aml yn unig, o'i gymharu â dim ond 5% yn Lloegr.

'Cael eu bwlio'

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru wrth Cymru Fyw: "Mae wythnos y gofalwyr yn gyfle da i'n hatgoffa bod rhai o blant yn wynebu heriau ychwanegol sydd ddim wastad yn amlwg i'w cyd-ddisgyblion neu i'r oedolion o'u cwmpas.

"Rydw i wedi gwrando ar nifer o ofalwyr ifanc ers dechrau fel Comisiynydd Plant: mae gofalu am eu teuluoedd yn gallu achosi straen iddynt os nad ydy'r gefnogaeth gywir ar gael i'w helpu. Gall gofalu effeithio ar eu lles cyffredinol a'u haddysg, a gall hyd yn oed yn gallu achosi bwlio gan eu cyd-ddisgyblion.

"Ond mae camau syml sy'n gallu helpu. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud yn siŵr bod ysgolion yn gwybod pa ddisgyblion sy'n ofalwyr ifanc a chydweithio gyda nhw i weld pa gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

"Hefyd, mae addysgu pob plentyn am y ffaith bod rhai o'u cyd-ddisgyblion yn ofalwyr, a beth mae hyn yn ei olygu, yn gallu eu hannog i ymateb i ofalwyr ifanc gydag edmygedd, yn hytrach na'u bwlio.

"Mae grwpiau gofalwyr ifanc ledled Cymru, sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, elusennau, ac ysgolion, yn darparu cefnogaeth arbennig hefyd. Maen nhw'n rhoi cyfleoedd i ofalwyr ifanc i rannu profiadau, i fynd ar dripiau, a hyd yn oed i gael lle diogel a thawel i ddarllen, ymlacio, ac i wneud gwaith ysgol."