Cynllun cartrefi 'pod' i leihau rhestr aros

  • Cyhoeddwyd
Tair dro droFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r tai dan sylw gael eu hail-ddefnyddio mewn ardaloedd eraill pe bai angen

Fe allai tai dros dro sydd hefyd yn ecogyfeillgar fod yn fodd o leihau'r rhestr aros am gartrefi, yn ôl Adran Dai Cyngor Gwynedd.

Mae'r Adran am gael caniatad i godi pedwar 'pod' fydd yn cynnig llety sefydlog dros dro i denantiaid yng Nghaernarfon.

Ond pe bai yn llwyddiannus fe allai'r cynllun gael ei ymestyn.

Mae'r cais cynllunio ar gyfer hen safle Ysgol Pendalar yn y dre gan gynnig " llety pwrpasol ar gost isel."

Yn ôl swyddogion byddai gofynion gwresogi'r yr adeiladau un-ystafell hyd at 90% yn is, gan gadw costau yn isel i'r tenantiaid.

Dywed adroddiad mai'r gobaith yw y gallai'r datblygiad fod yn "rhan gyntaf i sicrhau amrywiaeth o gartrefi eraill ar y safle yng Nghaernarfon yn y dyfodol.

"Mae'r dyluniad yn seiliedig ar system fodiwlar gyda'r gallu i'w cludo i safleoedd penodol a'u hail-ddefnyddio mewn ardaloedd eraill pe byddai angen."

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: "Mae'r cynllun yn dangos ein hawydd i sicrhau amrywiaeth o dai fforddiadwy sydd â chost isel i'w cynnal ar gyfer tenantiaid.

"Y bwriad ydi gosod llety pwrpasol cost isel ar gyfer pobl sy'n ei chael yn anodd i ganfod tenantiaeth oherwydd rhesymau amrywiol."

Mae disgwyl i'r cais cynllunio fynd gerbron y pwyllgor cynllunio yn ystod y misoedd nesaf.