Ffrae hiliaeth ynglŷn â'r Gymraeg mewn siop yn Nhregaron
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn dweud iddo gael ei alw'n hiliol am rannu pamffledi Cymraeg mewn siop yn Nhregaron, Ceredigion.
Roedd Jason Thomas yn hyrwyddo Gŵyl Gwenlli yn Synod Inn - digwyddiad Cymraeg newydd i'r ardal.
Mae'n dweud fod perchennog siop Debonair Gift Emporium wedi ymosod ar yr iaith gan nad oedd fersiwn Saesneg o'r pamffled ar gael.
Cadarnhaodd perchennog y siop ei bod wedi galw Mr Thomas yn hiliol - ond ei bod yn bryderus bod ei sylwadau wedi cael eu cam-ddehongli.
Rhannodd Mr Thomas ei bryderon ar ei dudalen Facebook wedi'r digwyddiad dydd Llun diwethaf.
Mae'n dweud bod y ffrae wedi cychwyn ar ôl iddo ddangos y pamffled i'r fenyw.
Dywedodd: "Dangoses i'r flyer iddi, a gofynnodd iddi i gael gweld un Saesneg - ond doedd y pamffled ddim mewn iaith benodol, jyst bod enwau'r bandie yn Gymraeg ac yna ambell i rif.
"Ond ar ôl imi esbonio hynny fe alwodd hi fi'n racist yn syth - ges i bach o sioc a dweud y gwir," meddai.
Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd Mr Thomas ei fod wedi gofyn i'r fenyw os ydi hi'n dysgu siarad Cymraeg.
"Wedodd hi naddo, gan ddweud 'English is the interntational language'."
Mae Tregaron yn paratoi ar gyfer cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 2020, gŵyl a fydd yn "sioc" i'r fenyw, yn ôl Mr Thomas.
Doedd perchennog y siop ddim am gael ei chyfweld yn swyddogol, ond anfonodd ymateb i raglen Taro'r Post.
Ddim yn wrth Gymreig
Cadarnhaodd ei bod wedi galw Mr Thomas yn hiliol yn ystod ffrae, a'i bod hi ddim yn hapus bod y taflenni a ddaeth mewn ddim yn hysbysebu'n ddwyieithog.
Mae hi'n credu bod peidio â hysbysebu digwyddiad yn ddwy-iethiog yn gelyniaethu canran o'r gymdeithas gan nad yw pawb yn deall Cymraeg.
Ond ychwanegodd nad ydy hi'n wrth Gymreig - ac yn deall mai Cymraeg yw iaith yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes o Gyngor Sir Geredigion bod hyn yn newyddion "siomedig iawn".
"Byddwn i ddim wedi meddwl bydde hyn yn digwydd yn Nhregaron," meddai.
"Sa i yn hoffi agwedd fel 'na o gwbl. Ni gyd yn gorfod dysgu byw 'da'n gilydd ac adnabod diwylliant ein gilydd.
Ychwanegodd: "Mewn lle fel Tregaron - mae'n rhaid derbyn mai Cymraeg yw ein hiaith pob dydd ni."
Dywedodd ei bod hi'n annog pobl sy'n symud i'r ardal i ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018