Sut ddylen ni ymateb i bobl sy'n ymosod ar y Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Yn y blynyddoedd diweddar, mae sawl stori am y Gymraeg yn cael ei gwawdio a'i sarhau wedi taro'r penawdau.
Pwy all anghofio llythyr perchennog Trago Mills i Gomisiynydd y Gymraeg, erthygl Rod Liddle yn y Sunday Times, eitem Newsnight am y Gymraeg, a'r erthygl yn The Guardian yn trafod addysg Gymraeg yn Llangennech?
Ac mae'r rhestr yn parhau.
Yn amlach na pheidio, ein hymateb naturiol, fel siaradwyr Cymraeg, yw i wylltio a throi at y cyfryngau cymdeithasol i fynegi hynny.
Ond ai dyna'r ffordd orau i ymateb i bobl sy'n ymosod ar ein hiaith?
Nage meddai Heini Gruffudd, sy'n awdur, darlithydd, ymgyrchydd iaith ac yn gadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith. Yma, mae'n mynegi ei farn am ein 'hobsesiwn' cenedlaethol ac yn awgrymu ffyrdd gwahanol o ymateb i'r rheiny sy'n ymosod ar y Gymraeg...
Oes rhywun yn ein gwawdio?
Mae Rod Liddle, fel sawl un o Loegr, yn dweud pethau diflas am y Gymraeg ac am dywydd Cymru. Beth ddylen ni wneud? Cwyno wrth yr heddlu? Cwyno amdano yn y senedd? Anfon dau gant o negeseuon ar Twitter? Cwyno am ragfarn hiliol yn erbyn yr iaith? Ei gael e ar S4C i'w amddiffyn ei hun?
Fe wnaethon ni hyn i gyd. Fe gafodd Rod Liddle sylw mawr. Dyna roedd e am ei gael, wrth gwrs. Heb ymateb fel hyn, fyddai dim gwerth i'w golofnau yn y papurau newydd.
Ond ydyn ni, wrth ymateb fel hyn, wedi gwneud unrhyw beth o werth dros yr iaith? A fyddai fe'n ysgrifennu eto am y Gymraeg pe baen ni i gyd heb gymryd sylw?
Nid fe yw'r cynta' i ymosod arnon ni. Yn 1852 roedd Matthew Arnold, arolygydd ysgolion, yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaethau rhwng Lloegr a Chymru'n diflannu.
Yn 1866 meddai'r Times mai'r Gymraeg oedd melltith Cymru. Meddai fod yr Eisteddfod yn rhwystro cynnydd gwareiddiad.
Mae'r math yma o wawdio'n beth cyffredin rhwng gwledydd mawr a'u cymdogion llai. Mae jôcs yn erbyn Gwyddelod, jôcs am Bwyliaid yn yr Almaen, a jôcs am Lydawiaid yn Ffrainc i gyd yn rhan o hyn. Jôcs y bwli ydyn nhw.
Yn eironig, rydyn ni'n mwynhau cael ein brifo. Rydyn ni'n teimlo loes ac yn gallu mwynhau bod yn hunangyfiawn. Rydyn wedyn yn codi llais, codi baner, gorymdeithio hyd yn oed. Ac rydyn ni wedyn yn mynd yn fwy eithafol.
Rydyn ni'n cyhoeddi i ni'n hunain bod y Gymraeg yn marw, ac felly bod angen ei hamddiffyn.
Mwynhau galaru am yr iaith
Mae hyn wedi bod yn obsesiwn 'da ni ers 800 mlynedd a mwy. Flynyddoedd yn ôl roedd yr ymosod a'r colli yn waeth: lladd Llywelyn, trechu Glyndŵr, y Ddeddf Uno. Ond rydyn ni'n mwynhau galaru o hyd.
Yn 1957, golygfa am farwolaeth y Gymraeg gan Islwyn Ffowc Elis yn Wythnos yng Nghymru Fydd - rydyn ni'n dal i fwynhau hyn. Ac yn 1962 dyma Saunders Lewis yn cyhoeddi bod y Gymraeg yn mynd i farw erbyn 2010 neu ddyddiad tebyg.
Mae hi mor hawdd ymateb i'r gwawdio heddiw. Gwasgu ambell fotwm ac mae ein hymateb ni i'w weld ledled y byd, mewn eiliad, trwy Twitter neu Facebook.
Mae rhywbeth yn debyg yn digwydd pan welwn ni arwyddion Cymraeg. Rydyn ni'n trydar yn erbyn pob gwall iaith sydd ar arwyddion siopau a phriffyrdd. Mae'n hobi cenedlaethol newydd, a llyfrau o luniau o wallau'n ymddangos.
Rydyn ni i gyd yn blismyn iaith. Treiglad ar goll fan hyn, dim dyblu 'n', a phethau gwaeth. A gohebwyr y BBC yn defnyddio idiom Seisnig! Hwrê, rydyn ni'n gallu trydar.
Arbenigo ar gwyno
Uchafbwynt ein niwrosis ieithyddol oedd yr ymgyrch ddwy flynedd a gafwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ein hannog i gwyno. "Gallwch gwyno!" Gallwn. Rydyn ni'n arbenigwyr erbyn hyn.
Ond onid ochr arall y geiniog yw ein bod ni i gyd am gael ein hoffi? Rydyn ni am i'r Sais ein parchu, cymryd sylw ohonon ni. Ac yn Lloegr mae'r pethau gorau.
Dyna pam mae hanner ein myfyrwyr yn llifo i brifysgolion Lloegr. Rydyn ni am i Rod Liddle ein canmol, rydyn ni am i'n corau ennill Britain's Got Talent, a gwych fyddai clywed gair o Gymraeg ar Love Island.
Beth ddylen ni wneud felly? Mae angen peidio ymateb i'r sylwadau gwawdlyd amdanon ni. Denu rhagor mae hynny, ac wrth i ni gwyno, rydyn ni'n osgoi meddwl beth sydd orau i'w wneud dros y Gymraeg.
Mwynhau'r iaith... yn cynnwys y gwallau
Gadewch i ni feddwl yn greadigol a chadarnhaol. Cynllunio dyfodol yr iaith am ei bod yn iaith fyw, nid yn iaith farw.
Mae angen mynd ati i gynnal ein bywyd Cymraeg ar lawr gwlad a mwynhau yn y Gymraeg: mwynhau ein hiaith sy'n llawn gwallau. Rhoi hyder i'r siaradwyr newydd siarad y Gymraeg a dim ots am y treigladau. Dyw sylwebwyr pêl-droed Lloegr ddim yn poeni am eu gwallau iaith, a does neb yn poeni am hyn.
Mae angen i'n gwleidyddion feddwl am sut gall y Gymraeg ymgryfhau'n iaith fyw mewn cartrefi, cymunedau a mannau gwaith ledled y wlad, yn lle ymateb i ffyliaid.
Mae digon o fywyd yn yr iaith o hyd - mwynhawn!
Efallai o ddiddordeb...
Ydych chi'n cytuno gyda Heini? Sut ydych chi'n credu ddylen ni ymateb i'r rheiny sy'n ymosod ar y Gymraeg?
Cysylltwch â ni drwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy lenwi'r ffurflen isod (nid yw'r ffurflen yn ymddangos ar yr ap).