Gig Buddies: Cynllun gwirfoddol yn mynd o nerth i nerth
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun arloesol sy'n ceisio paru pobl sydd ag anghenion dysgu arbennig gyda gwirfoddolwyr er mwyn gallu mynychu gweithgareddau amrywiol wedi profi'n gymaint o lwyddiant fel ei bod yn ehangu.
Cafodd Gig Buddies - sy'n mynd â phobl i weithgareddau fel gemau pêl-droed a rygbi, neu gyngherddau a'r theatr - ei sefydlu gan elusen Anabledd Dysgu Cymru yng Nghaerdydd.
Nawr mae'n cael ei ymestyn i siroedd eraill yn y de ddwyrain.
Yn ôl yr elusen mae toriadau mewn gwasanaethau cymorth oherwydd prinder arian wedi golygu fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn gallu wynebu heriau sylweddol werth geisio mynychu gweithgareddau cymdeithasol, gan eu "gadael yn unig ac yn ynysig".
Dywedodd llefarydd fod y cynllun wedi galluogi cannoedd o bobl i fwynhau nosweithiau allan fyddai heb fod yn bosib fel arall.
Ffrind newydd
Un sydd wedi gwirfoddoli yn y prosiect ers blwyddyn bellach ydy Gareth Jones o Gaerdydd.
"Un o'm ffrindiau a fi wnaeth weld stondin adeg y launch yn y Rhath y llynedd a meddwl na'i wirfoddoli," meddai.
"Mae'n bleser gwneud hyn, ac mae Nick wedi dod yn ffrind i mi.
"Ni'n mynd i gyngherddau. Os 'di Nick yn mwynhau mae e'n dueddol o glapio dwylo neu glapio fi ar fy mhen.
"Ond o leia' wedyn dwi'n gwybod fod e'n mwynhau."
"Dwi hefyd wedi dod i ddysgu pethau.
"O ni'n licio mynd i gyngherddau ond nid musicals, ond wedyn gan fod Nick eisiau mynd dyna be ddigwyddodd a rhaid dweud nes i fwynhau a da ni newydd fod yn gweld Motown, felly mae'n beth da."
Dywedodd Mr Jones fod y cynllun hefyd yn golygu nad yw pobl yn gaeth i'w tai bob nos.
"S'dim rhaid mynd i gyngerdd bob tro, weithiau mae just yn neis i roi'r cyfle i fynd allan a gweld pobl arall allan ar ôl naw y nos.
"Oherwydd chwarae teg i ofalwyr, mae'n rhaid i shifftiau nhw ddod i ben rhywbryd."
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gyda grant gan gymdeithas First Choice Housing.
Yn ôl Kai Jones, cydlynydd y prosiect ar ran Anabledd Dysgu Cymru, mae'r llwyddiant wedi dod a gymaint o lawenydd i bawb sydd ynghlwm â'r fenter.
"Mae rhywun bron yn ei ddagrau gymaint yw'r llwyddiant.
"Rydym yn brosiect bach, ond mae yn anhygoel beth rydym wedi ei gyflawni," meddai.
'Ehangu cylch cymdeithasol'
Cafodd y prosiect Gig Buddies cyntaf ei sefydlu yn Brighton chwe blynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae wedi ymestyn i ddinasoedd eraill ac i Awstralia.
Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i'w fabwysiadu.
"Mae'r holl beth yn ymwneud ag ehangu cylch cymdeithasol pobl," meddai Nick Jones.
"Mae pobl sydd ag anawsterau dysgu yn cael problemau wrth geisio mynd allan, ac mae prosiect Gig Buddies wedi bod yn gymaint o help.
"Mae'n wych o beth hefyd i weld perthynas yn datblygu.
"Yn gyffredinol o ran pobl ag anableddau o'r fath, yr unig bobl maen nhw'n ei weld ydy'r bobl sy'n cael eu talu i fod yn rhan o'u bywydau a'u teuluoedd. Felly does ganddynt fawr iawn o ffrindiau.
"Ond drwy ehangu eu cylchoedd cymdeithasol mae'n beth da i'r person ag anableddau dysgu ac mae'n beth da i'r gwirfoddolwr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2015