Ceidwadwyr yn dewis Chris Davies fel ymgeisydd
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi dewis Chris Davies i fod yn ymgeisydd yn yr isetholiad.
Bydd isetholiad yn cael ei gynnal wedi i dros 19% o'r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo'r Aelod Seneddol Ceidwadol.
Ym mis Mawrth fe wnaeth Chris Davies, 51, bledio'n euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Bu'n destun deiseb galw nôl yn ei etholaeth, oedd yn golygu y byddai isetholiad yn cael ei gynnal pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn ei harwyddo.
Mewn cyfarfod nos Sul, fe benderfynodd y Blaid Geidwadol i ddewis Mr Davies fel ymgeisydd ar eu rhan.
Mae disgwyl i Jane Dodds sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a Tom Davies dros y Blaid Lafur.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai'n gwneud penderfyniad "maes o law" o ran dewis ymgeisydd.
'Cefnogi Chris'
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales yn gynharach ddydd Sul, dywedodd AS Maldwyn, Glyn Davies, ei fod e'n cefnogi Chris Davies.
"Mae e wedi gwneud camgymeriad ac mae e wedi ymddiheuro am ei gamgymeriad. Yr hyn sydd dan sylw yw a ddylai fod yna ail gyfle.
"Mae yna broses. Mae yna broses seneddol ac ry'n wedi cwblhau'r broses honno a nawr bod yna isetholiad mae e i fyny i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed benderfynu ar y dyfodol."
Fe wnaeth 10,005 o bobl arwyddo'r ddeiseb dros gyfnod o chwe wythnos - 19% o'r etholaeth.
"Byddwn i," ychwanegodd Glyn Davies, "yn pleidleisio dros Chris i fod yn ymgeisydd.
"Rwy'n credu y bydd gan y blaid yn ganolog safbwynt ar y mater ac rwy'n credu y bydd barn gan y blaid yn lleol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed."
Cafodd Mr Davies ddedfryd o wasanaeth cymunedol a dirwy o £1,500 yn Llys y Goron Southwark ar ôl iddo gyfaddef y troseddau.
Dywedodd yn dilyn ei ddedfryd ei fod yn "ymddiheuro yn ddiamod" am yr hyn a wnaeth.
'Gobeithio adennill ymddiriedaeth'
Mewn datganiad dywedodd Mr Davies ei fod yn "siomedig" gyda'r canlyniad, gan ymddiheuro i bobl yr etholaeth am yr hyn a wnaeth.
Dywedodd: "Nawr mae hi'n gwbl gywir i'r bobl roi eu barn ar os ydyn nhw'n dal i fy nghefnogi i fel yr Aelod Seneddol mewn isetholiad.
"Dwi'n gobeithio eu bod nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at adennill eu hymddiriedaeth ac adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf."
Yn etholiad cyffredinol 2017 roedd gan Mr Davies fwyafrif o 8,038 dros y Democratiaid Rhyddfrydol, ddaeth yn ail yn yr etholaeth.
Mae deiseb galw nôl yn cael ei lansio pan fo AS yn derbyn dedfryd o garchar neu ddedfryd ohiriedig, neu'n euog o ddarparu gwybodaeth anghywir ynglŷn â hawlio treuliau.
Mr Davies oedd y trydydd AS i wynebu deiseb galw nôl ers iddyn nhw ddod i fodolaeth yn 2016, ond y cyntaf yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019