Llywodraeth Cymru yn rhoi 'pwysau' ariannol ar brifysgol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae prifysgol yng Nghymru yn wynebu ansefydlogrwydd ariannol yn sgil "oedi parhaus" gan Lywodraeth Cymru am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn ôl eu Prif Ganghellor.

Dywedodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant bod yna "amheuon mawr" dros eu dyfodol.

Mewn llythyr i randdeiliaid, sydd wedi dod i sylw Newyddion 9, mae'r Athro Medwin Hughes yn dweud bod diffyg arian gan y Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi rhoi "pwysau na welwyd o'r blaen ar y brifysgol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n anelu i wneud cyhoeddiad "yn fuan".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Medwin Hughes yn mynnu nad ydy dyfodol y brifysgol mewn perygl

Beth yw Bargen Ddinesig Bae Abertawe?

  • Cafodd ei arwyddo dwy flynedd yn ôl gan Theresa May gyda'r nod o ysgogi twf economaidd yn ardaloedd Abertawe, Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro;

  • Mae'n cyfuno pedwar cyngor, dau fwrdd iechyd, dwy brifysgol a busnesau, ac yn cael ei gefnogi gan gymysgedd o arian preifat cyhoeddus;

  • Mae'r cynlluniau yn cynnwys sefydlu adnoddau hamdden, addysg ac iechyd - gyda'r bwriad o gyfrannu £1.3bn i economi'r ardal a chreu 9,000 o swyddi;

  • Mae'n derbyn £40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Wrth gyfeirio at adroddiad newyddion BBC Cymru, mae'r Athro Hughes yn sôn am fater penodol lle mae'r brifysgol yn aros i dderbyn symiau cyfalaf untro.

Mae'r llythyr yn dweud: "Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf nid oedd y symiau hyn wedi dod i law yn sgil ffactorau allanol y tu hwnt i reolaeth y brifysgol.

"Nid yw dyfodol y brifysgol mewn perygl. Mae'n parhau i reoli'r sefyllfa ariannol ac ymateb i gyfyngiadau allanol fel y mae pob sefydliad Addysg Uwch arall yng Nghymru."

Ond mae'n parhau i drafod "un mater allweddol sy'n gysylltiedig â'r sefyllfa gyfredol", sef yr "oedi parhaus am gymeradwyaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'n hymrwymiad o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe".

Dywedodd bod y brifysgol wedi cael gwybod gan Fwrdd Bargen Ddinesig Bae Abertawe "ar sawl achlysur" fod y cyllid "ar fin digwydd".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Brifysgol £3m o gyllid gan Lywodraeth Cymru am y gwaith yn yr Egin, wedi iddi ddod i'r amlwg na fyddan nhw'n cael arian gan yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Egin - hwb creadigol newydd a phencadlys yr S4C - a'r datblygiad SA1 Glannau Abertawe yn rhan o ymgais y brifysgol i sicrhau cyllid ar gyfer y fargen ddinesig.

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod y Brifysgol wedi gofyn am £3m o gyllid o'r fargen ddinesig ar gyfer cam 1 o'r Egin, sy'n fodel cyllido gwahanol i'r hyn a gyflwynwyd i bwyllgor o ASau Cymru yn 2017.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae partneriaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cyflwyno cynllun busnes pum achos ar gyfer prosiect Yr Egin - sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

"Ein nod yw gwneud cyhoeddiad yn fuan."