Saethu bwa croes: Arestio pedwar wedi marwolaeth Gerald Corrigan
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio pedwar o bobl mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn a gafodd ei saethu gan fwa croes ger Caergybi, Ynys Môn.
Bu farw Gerald Corrigan, 74, yn ysbyty Stoke fis Mai wedi iddo gael ei saethu wrth drwsio lloeren ar wal ei dŷ ar 19 Ebrill.
Mae un dyn 38 oed sy'n byw yn ardal Bryngwran wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a nifer o droseddau cysylltiedig eraill.
Cafodd dau ddyn arall, un 48 oed o ardal Caergeiliog ac un 36 oed o Fryngwran, eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni llofruddiaeth, cynllwynio i gyflawni twyll a throseddau cysylltiedig.
Mae un fenyw 50 oed hefyd wedi ei harestio ar amheuaeth o droseddau ariannol a throseddau'n ymwneud â thwyll.
Daw'r arestiadau wrth i Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu bod yn credu i Mr Corrigan "gael ei saethu yn fwriadol".
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Wayne Jones: "Yn fuan bore 'ma, bu swyddogion yn gweithredu nifer o warantau chwilio fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Corrigan, pensiynwr a dyn uchel ei barch.
"Rwy'n credu bod yna aelodau o'r gymuned a allai fod â gwybodaeth allweddol am yr ymosodiad ofnadwy yma ar Gerald."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i ddod ymlaen a siarad gyda nhw'n gyfrinachol neu gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555111.
Ddydd Llun cafodd angladd Mr Corrigan ei gynnal yn Knutsford, Sir Caer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019