ACau'n pleidleisio i gefnogi gwaith y Senedd Ieuenctid
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio'n unfrydol i gefnogi gwaith Senedd Ieuenctid Cymru.
Mewn sesiwn hanesyddol ar y cyd rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd Ieuenctid Cymru, bu'r ddau sefydliad yn cwrdd ddydd Mercher am y tro cyntaf ac yn cytuno ar y ffordd y byddan nhw'n cydweithio yn y dyfodol.
Fis Chwefror eleni oedd y tro cyntaf i Senedd Ieuenctid Cymru gyfarfod yn dilyn etholiad ddiwedd 2018.
Mae ganddi 60 aelod - 40 ohonynt yn cynrychioli etholaethau Cymru.
Etholwyd aelodau ar gyfer yr 20 sedd arall gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ehangach wrth i aelodau gynrychioli sefydliadau gofal cymdeithasol, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl LHDT, a chymunedau teithwyr.
Yn ystod y cyfarfod cyntaf, fe bleidleisiodd yr aelodau i sefydlu tri phrif flaenoriaeth dros eu tymor o ddwy flynedd, sef cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, sbwriel a gwastraff plastig a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.
Dywedodd Y Llywydd, Elin Jones bod y Cynulliad "eisiau bod eu barn, eu llais a'u blaenoriaethau nhw yn dylanwadu ar bolisi yn uniongyrchol".
"Fe gefais i'r anrhydedd enfawr o gadeirio'r sesiwn cyntaf oll o'r Senedd Ieuenctid, ac fe ges i fy mhlesio yn anhygoel gan frwdfrydedd a gallu'r bobl ifanc yma o wahanol gefndiroedd, o wahanol ardaloedd yng Nghymru," meddai.
"I fod yn dod gyda barn gryf ond yn barchus ac yn gwrando ar farn wahanol gan bobl eraill hefyd, dwi'n gobeithio y bydd Aelodau'r Cynulliad yn dysgu tipyn bach gan y bobl ifanc."
Credir mai'r sesiwn hon fydd y gyntaf i gael ei chynnal rhwng Senedd a Senedd Ieuenctid.
Wedi cyfrannu eisoes
Mae'r Senedd Ieuenctid eisoes wedi cyfrannu at waith y Cynulliad drwy roi sylwadau ar y Mesur Senedd ac Etholiadau a fydd, os caiff ei basio, yn gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiad y Cynulliad i 16 oed.
Mae Aelodau'r Senedd Ieuenctid hefyd wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fel rhan o'i waith yn trafod y Mesur Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a fydd, os caiff ei basio, yn cael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol mewn perthynas â tharo plant.
Bydd yr aelodau'n rhoi diweddariad ar brif flaenoriaethau'r Senedd Ieuenctid mewn cyfarfod ymlaen llaw yn y Pierhead ym mae Caerdydd, yng nghwmni Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018