Cyhuddo dyn o Fôn o lofruddiaeth bwa croes

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Gerald Corrigan wedi'r ymosodiad eu bod nhw'n ceisio dod i delerau â'r digwyddiad "dychrynllyd"

Mae dyn 38 oed o Fryngwran, Ynys Môn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn gyda bwa croes ar Ynys Môn.

Saethwyd Gerald Corrigan, 74 oed, gyda bwa croes ym mis Ebrill, a bu farw bron fis yn ddiweddarach o'i anafiadau a gafodd eu disgrifio gan yr heddlu fel rhai dychrynllyd.

Cafodd Terence Michael Whall o ardal Bryngwran ei gadw yn y ddalfa gan ynadon Llandudno fore Gwener.

Mewn gwrandawiad byr, fe siaradodd i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad yn unig.

Fe wnaeth ei gyfreithiwr Eilian Williams awgrymu fod ei gleient yn "gwadu cyfrifoldeb" am y digwyddiad.

Does dim cais am fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ddydd Llun, 1 Gorffennaf.

Bu farw Mr Corrigan mewn ysbyty yn Stoke ar 11 Mai wedi iddo gael ei saethu wrth drwsio lloeren ar wal ei dŷ ar 19 Ebrill.

Mae tri pherson arall oedd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau llym ynghlwm.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd, Brian Kearney o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn parhau i apelio am wybodaeth.

"Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Mr Corrigan. Mae ein meddyliau i gyd gyda nhw ar hyn o bryd," meddai.