Plaid Brexit yn dewis Des Parkinson fel ymgeisydd

  • Cyhoeddwyd
Des Parkinson
Disgrifiad o’r llun,

Des Parkinson fydd ymgeisydd Plaid Brexit ar 1 Awst

Mae'r isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn "fater o hygrededd" yn ôl Des Parkinson, ymgeisydd Plaid Brexit.

Dywedodd Mr Parkinson bod "y Ceidwadwyr wedi gadael pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed i lawr, ac mai pleidlais dros Blaid Brexit yw'r unig ffordd i sicrhau Brexit."

Cafodd ymgyrch y cyn-brif uwch-arolygydd gyda'r heddlu, sy'n dod o Aberhonddu yn wreiddiol, ei lansio yn swyddogol yng Nghrucywel ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd bod "hygrededd mewn bywyd cyhoeddus yn bwysig" a bod "Chris Davies wedi gadael ei hun, ei deulu, ei blaid a'i etholwyr i lawr."

Mae'r isetholiad yn cael ei gynnal wedi i dros 19% o'r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo'r Aelod Seneddol Ceidwadol Chris Davies.

Ond mae aelodau'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi dewis Mr Davies i fod yn ymgeisydd ar eu rhan unwaith eto.

Mi fydd yn wynebu Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Des Parkinson o Blaid Brexit a Tom Davies o'r Blaid Lafur.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai'n gwneud penderfyniad "maes o law" o ran dewis ymgeisydd.

Mae'r Blaid Werdd wedi dweud na fydden nhw yn sefyll er mwyn rhoi gwell cyfle i ymgeisydd sy'n gwrthwynebu Brexit.

Mae gan bleidiau tan 5 Gorffennaf i gynnig ymgeisydd ac mi fydd yr isetholiad yn cael ei chynnal ar 1 Awst.