Isetholiad: Plaid Cymru yn trafod uno â phleidiau eraill

  • Cyhoeddwyd
Adam Price a Chris Davies

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cadarnhau eu bod nhw'n trafod isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed gyda phartïon eraill sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd bod y blaid yn ystyried a ddylen nhw enwebu ymgeisydd neu ddod i gytundeb a phlaid arall.

Daw'r isetholiad wedi i 10,005 o bobl arwyddo deiseb i ddiswyddo'r AS Ceidwadol Chris Davies ar ôl iddo bleidio'n euog i gyflwyno dogfennau ffug wrth hawlio treuliau.

Mewn cyfarfod nos Sul, fe benderfynodd y Blaid Geidwadol i ail-ddewis Mr Davies fel ymgeisydd ar eu rhan.

Mae disgwyl i Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Brexit gyflwyno ymgeiswyr i herio Mr Davies.

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Mr Price: "Ni mewn trafodaethau gyda phleidiau aros - sydd o blaid aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd - a gyda'n haelodau ni yn lleol.

"Ac yn wyneb y drafodaeth hynny, byddwn ni'n gwneud penderfyniad maes o law."

Dywedodd mai nod y trafodaethau yw ceisio dod i "gytundeb ehangach - er mwyn gallu sicrhau fod Cymru yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Jane Dodds sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol, Change UK a'r Gwyrddion i gyd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau gyda Phlaid Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Change UK bod y blaid "yn hapus i gadarnhau eu bod nhw'n trafod y syniad o enwebu ymgeisydd cyfunedig annibynnol sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed".

'Yr unig wrthblaid gredadwy'

Dywedodd AC Plaid Brexit, Mark Reckless, bod trafodaeth rhwng pleidiau sydd eisiau aros yn yr UE yn dangos mai ei blaid ef yw'r unig "wrthblaid gredadwy" yng Nghymru.

Ychwanegodd: "Mae Plaid Cymru'n gwybod bod annibyniaeth yn amhoblogaidd, felly maen nhw'n gobeithio dilyn ôl-troed y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n cefnogi llywodraeth Lafur Cymru.

"Maen nhw i gyd yn rhan o'r sefydliad sydd o blaid aros."

Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer yr isetholiad eto.