Gallai Castell Bodelwyddan 'fynd yn gartref preifat'

  • Cyhoeddwyd
Castell BodelwyddanFfynhonnell y llun, Dot Potter/ Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y castell ei brynu gan yr hen Gyngor Clwyd yn yr 1980au

Mae'n bosib y gallai Castell Bodelwyddan gael ei throi yn gartref preifat unwaith eto.

Cafodd yr adeilad ei roi ar werth yn gynharach eleni, ac mae'r cwmni sy'n gyfrifol yn dweud bod nifer o brynwyr wedi dangos diddordeb eisoes.

Fe ddywedodd asiantaeth Lambert Smith Hampton bod rhai yn awyddus i'w droi yn gartref preifat, tra bod eraill eisiau ei addasu i fod yn lleoliad ar gyfer priodasau a digwyddiadau.

Roedd yr ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am y castell wedi dweud y byddan nhw'n cadw'r safle ar agor i'r cyhoedd mor hir â phosib.

Ers hynny fodd bynnag mae'r plasty a'r oriel luniau wedi cau, gyda'r gerddi yn parhau i fod ar agor i ymwelwyr.

"Rydyn ni wedi edrych ar ffyrdd y gallen ni ddod yn hunangynhaliol, ond doedden ni jyst ddim yn medru parhau," meddai Helen Papworth, cadeirydd yr ymddiriedolaeth.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan
Disgrifiad o’r llun,

Mae 260 acer o dir yn rhan o Gastell Bodelwyddan

Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych gyhoeddi yn 2017 nad oedden nhw am barhau i roi grant blynyddol o £144,000 i'r castell, ac fe arweiniodd hynny at golli swyddi.

Cafodd y castell cyntaf ar y safle ei adeiladu tua 1460, ac fe gafodd ei ailadeiladu yn yr 1830au.

Roedd yr adeilad, sy'n un rhestredig Gradd II, yn ysbyty i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna'n ysgol i ferched rhwng 1920 ac 1982.

Mae amcangyfrif fod y castell werth dros £1m, ac fe ddywedodd yr ymddiriedolaeth mai'r bwriad oedd defnyddio'r arian ar addysg ac arddangos y paentiadau rywle arall.