Sioe Môn yn canslo adran y ceffylau oherwydd pryder ffliw
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Sioe Môn wedi cyhoeddi eu bod wedi penderfynu canslo adran y ceffylau eleni oherwydd cyfres o achosion o ffliw ceffylau ledled Cymru.
Ond mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn mynnu y bydd gweddill y sioe yn "parhau fel arfer".
"Y prif reswm dros y penderfyniad ydy lles yr anifeiliaid a'r cadarnhad diweddar o achos o'r ffliw ceffylau ar Ynys Môn," meddai'r trefnwyr.
Bydd Sioe Môn yn cael ei chynnal ym Mona ar 13 ac 14 Awst.
Dywedodd y trefnwyr mewn datganiad y byddan nhw'n sicrhau y bydd pawb sydd wedi talu er mwyn cystadlu yn adran y ceffylau yn cael ad-daliad.
Daw'r penderfyniad wedi i drefnwyr y Sioe Frenhinol ddweud yn gynharach yr wythnos yma na fydd hawl i'r un ceffyl sydd heb ei frechu yn erbyn ffliw ceffylau gystadlu eleni
Cafodd Sioe Caernarfon, oedd i fod i ddigwydd ar 6 Gorffennaf, ei chanslo hefyd yn dilyn pryderon am nifer cynyddol o'r haint.
Achos o'r haint ym Môn
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Iechyd Anifeiliaid yn dangos bod 160 o achosion o ffliw ceffylau wedi'u cadarnhau ar draws y DU ers dechrau'r flwyddyn - 24 o'r rheiny yng Nghymru.
Cafodd yr achos cyntaf yng Nghymru ei nodi yn Sir y Fflint ym mis Mawrth, ac erbyn mis Mehefin roedd achosion yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Morgannwg Ganol, Sir Fynwy, Sir Gâr a Wrecsam.
Mae chwe achos arall wedi'u cadarnhau ers dechrau'r mis yma, gan gynnwys y diweddaraf ar Ynys Môn ei hun.
Ond gan nad oes gorfodaeth i adrodd achosion o ffliw ceffylau, mae pryder y gallai nifer yr achosion fod yn uwch mewn gwirionedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019