Troseddau cysylltiedig â chyllyll ar gynnydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
plismon
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ddau achos angheuol o drywanu wedi bod yng Nghymru eleni

Mae plismyn wedi mynegi pryder bod mwy o bobl sy'n eu harddegau yng Nghymru yn cael eu denu i droseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll.

Yn ôl yr awdurdodau mae bechgyn mor ifanc â 15 oed yn cario llafnau wedi iddyn nhw gael eu meithrin i fod yn werthwyr cyffuriau, ac mae cyllyll wedi cael eu canfod ar feysydd chwarae.

Mae nifer y troseddau sy'n cynnwys arfau wedi codi mwy na 80% yn y degawd diwethaf, ac mae dau achos angheuol o drywanu wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ardal Heddlu'r De mae nifer y troseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll bron wedi dyblu - o 382 yn 2011 i 724 yn 2018.

Dywedodd un bachgen 15 oed wrth raglen Wales Investigates BBC Cymru sut y cafodd ei feithrin i werthu cyffuriau gan werthwr hŷn.

"Roeddwn i'n arfer gwylio pêl-droed a chwarae gemau," meddai.

"Ond un diwrnod fe wnaeth dyn hŷn roi cyffur drud ac arian i fi ac fe ddangosodd e filoedd ar filoedd o arian a dillad neis i fi.

"Dywedodd y gallwn ymuno ag e petawn eisiau cael bywyd moethus o'r fath."

Dywedodd y bachgen 15 oed ei fod yn cario cyllell neu fod ganddo un gerllaw pan mae'n gwerthu cyffuriau.

Ychwanegodd ei fod hefyd wedi gweld gwerthwyr llinellau cyffuriau yn meddiannu Caerdydd a'u bod yn cyflwyno lefel newydd o drais.

"Os ydych am oroesi, rhaid i chi ddefnyddio trais," ychwanegodd y bachgen.

Defnyddio sbôcs ar gynnydd

Dywedodd un ymgynghorydd sy'n gweithio yn adran ddamweiniau'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd bod yr uned yn delio ag "anafu sylweddol" bron yn wythnosol.

"Ry'n ni gyd yn gweld mwy o droseddau cyllyll," meddai Dr James Dunn.

"Nid dim ond cyllyll sy'n cael eu defnyddio, mae rhai yn defnyddio sbôcs beic. Dyw'r rhain ddim yn edrych yn beryglus ond maent yn hir ac yn gallu mynd mewn i'r galon neu'r iau."

Marw yng Nghymru wedi gadael Somalia

Ffynhonnell y llun, Teulu Nur
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fahad Mohamed Nur yn yr ysbyty wedi iddo ddioddef ymosodiad ger gorsaf reilffordd

Pan ddihangodd rhieni Fahad Mohamed Nur rhag rhyfel Somalia doedden nhw ddim yn disgwyl y byddai eu mab yn cael ei ladd yng Nghymru.

Ond dyna beth ddigwyddodd wedi iddo gael ei drywanu 21 o weithiau ger gorsaf Cathays.

"Nai fyth anghofio dweud y newyddion wrth fy mam," meddai ei frawd.

"Pan ddaethon ni yma yn fewnfudwyr roeddwn yn dianc rhag trais. Roedden ni'n meddwl bod hon yn wlad mwy heddychlon na mae hi."

'Neges beryglus'

Mae Wales Investigates hefyd wedi siarad â dau gerddor sy'n perfformio ar strydoedd Caerdydd.

Mae'r ddau, Pablo a Jukkie, wedi'u cael yn euog o droseddau cysylltiedig â chyffuriau a chyllyll ac maent wedi gwneud fideos o'u hunain yn siarad am werthu cyffuriau a chario arfau.

Dywedodd Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth, y dylid tynnu'r fideos oddi ar y we.

"Mae'r neges yn glir," meddai Mr Doughty. "Mae modd cael bywyd moethus, merched, ceir ac arian, ond y gwir yw bod rhywun yn fwy tebygol o gael anaf difrifol neu gyfnod hir yn y carchar."

Doedd Jukkie ddim am gael ei gyfweld ac mae Pablo bellach yn y carchar.

Disgrifiad o’r llun,

Plismyn ar strydoedd Caerdydd yn delio ag amrywiol achosion o drais a chyffuriau

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ceisio delio â'r hyn sy'n digwydd ond bod rhaid delio gyda'r bobl sy'n dod â'r cyffuriau a thrais i'r brifddinas.

"Dyw Caerdydd ddim cynddrwg â dinasoedd mawr yn y DU a boed i bethau aros felly," meddai'r Prif Gwnstabl, Matt Jukes.

"Ond dwi'n poeni beth all ddigwydd os nad ydyn ni'n gweithredu nawr a newid y diwylliant sy'n prysur dyfu."

Bydd modd gweld BBC Wales Investigates Knife Crime: Behind the Violenceddydd Llun am 20:30 GMT ar BBC 1 Cymru.