Dros hanner poblogaeth Cymru ddim yn meddwl am henaint
- Cyhoeddwyd
Dyw dros hanner poblogaeth Cymru (58%) ddim yn gwneud unrhyw baratoadau ar gyfer eu henaint yn ôl ymchwil newydd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd 70% o'r rhai a holwyd eu bod yn bryderus am y gefnogaeth gofal cymdeithasol y gallai fod ei hangen arnynt yn y dyfodol.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu i ddarganfod beth y mae pobl Cymru yn ei ddeall am ofal cymdeithasol a sut y mae'n cael ei ariannu, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd yn cwrdd â'r cynnydd a ragwelir mewn costau gofal cymdeithasol.
Mae Gwenda James o Aberystwyth a'i theulu newydd orfod trefnu gofal i'w mam 87 oed o Lannerch-y-medd wedi iddi gael codwm.
Dywedodd fod ceisio dod o hyd i ofal yn brofiad rhwystredig.
"Do'n ni ddim yn gwybod lle i droi," meddai, "mae wedi bod yn ofnadwy o galed gwybod lle i gael help.
"Do'n ni ddim wedi meddwl am y dyfodol - o ni'n gobeithio y buasen ni'n gallu edrych ar ôl mam yn hapus yn ei chartref ei hun.
"Mae 'na gost yn mynd i fod i gael gofalwyr i mam yn y dyfodol."
Roedd yr ymchwil lle holwyd 1000 o bobl ledled Cymru yn nodi hefyd:
mai dim ond 27% sy'n debygol o fod yn cynilo arian ar gyfer unrhyw ofal cymdeithasol y gallai fod ei angen arnynt yn y dyfodol;
roedd dros saith o bob deg o'r ymatebwyr (72%) yn credu y dylai pawb wneud darpariaeth ar gyfer eu henaint pan maen nhw'n ifanc ac mewn gwaith;
roedd bron i 80% yn gwybod y gall fod angen i bobl dalu tuag at gostau cymorth gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain;
dim ond 9% oedd yn meddwl y byddai'n cael ei ddarparu am ddim;
fod pobl yn bryderus ynghylch y gefnogaeth gofal cymdeithasol y gallai fod ei hangen arnynt - roedd y pryderon yn cynnwys cost, ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol
bod llai na thri o bob deg o bobl (27%) yn teimlo bod ganddynt lawer o wybodaeth, neu wybodaeth weddol ynglŷn â sut y mae'r system gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer cyllid tymor hir ar gyfer gofal cymdeithasol, gan y bydd y galw yn cynyddu yn sylweddol.
'Talu am ofal cymdeithasol'
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi comisiynu rhaglen waith i archwilio'r mater ac i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut mae ei gweithredu.
Dywedodd: "Gall fod rhagdybiaeth weithiau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu yn yr un modd â'r gofal iechyd a ddarperir gan y GIG.
"Ond, nid yw hyn yn wir. Gall awdurdodau lleol godi tâl am y gofal cymdeithasol a'r gefnogaeth y byddant yn ei ddarparu neu'n ei drefnu ar gyfer person.
"Ar ryw adeg yn ein bywydau, gallwn ni neu'n hanwyliaid fod angen gofal cymdeithasol. Mae canlyniadau'r ymchwil yn dangos yn glir bod pobl yn meddwl am eu gofal, ond nad ydynt efallai yn rhoi cynlluniau ar waith eto.
"Fel Llywodraeth, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol i gefnogi costau i'r dyfodol.
Ond, mae'n bwysig ein bod yn dechrau'r sgwrs nawr ac yn cydweithio i benderfynu sut y bydd model gofal cymdeithasol Cymru yn edrych yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017