Arddangosfa yn canolbwyntio ar werth gwrthrychau pob dydd

  • Cyhoeddwyd
arddangosfaFfynhonnell y llun, Emile Holba

Bydd arddangosfa sy'n agor yng Nghaerdydd ddydd Mawrth yn canolbwyntio ar werth gwrthrychau pob dydd i bobl sydd ag awtistiaeth neu anableddau dysgu.

Dywed Dimensions Cymru mai dyma'r arddangosfa gyntaf o'i math a'i nod yw dangos sut mae ambell wrthrych yn gallu bod yn allweddol er mwyn sicrhau annibyniaeth i rai pobl.

Mae'r mudiad yn cefnogi pobl sydd ag anghenion dysgu, awtistiaeth a chyflyrau eraill i fod yn rhan o'u cymuned.

Dywedodd Russ Kennedy, cyfarwyddwr rhanbarthol Dimensions Cymru: "Mae gan bawb eitemau sy'n ymddangos yn bethau bydol i rai ond i'r perchnogion maent yn fwy gwerthfawr nag aur.

"Yn rhy aml ry'n ni'n gweld pobl yn dod atom heb unrhyw eiddo.

"Mae eiddo personol yn ein cynorthwyo i ddatblygu synnwyr o berchnogaeth ac yn aml mae'r eiddo yn dod ag atgofion, yn darparu cysur."

Disgrifiad o’r llun,

Ei hesgidiau cerdded sy'n bwysig i Wendy Enfield

Ychwanegodd Mr Kennedy: "Yn aml dyw pobl sydd ag anghenion arbennig neu bobl awtistig ddim yn cael cyfle i gasglu eiddo sydd o arwyddocâd personol neu maent yn cael eu gorfodi i'w gadael ar ôl wrth iddynt symud rhwng mannau gofal.

"Ry'n ni yn Dimensions Cymru am gefnogi pobl mewn ffordd sy'n eu helpu i gael bywyd normal - ac mae hel eiddo yn help iddynt adrodd eu straeon."

Bwriad yr arddangosfa yw adrodd straeon rhai o'r bobl sy'n cael cefnogaeth, drwy dynnu lluniau ohonyn nhw gydag eiddo gwerthfawr iddyn nhw.

Ymhlith yr eiddo y mae pobl wedi ei ddewis i'w arddangos mae esgidiau cerdded, darn o bapur, medal Ras am Fywyd ac allweddi.

Dyw Wendy Enfield ddim yn cyfathrebu drwy siarad ac yn y gorffennol mae hi'n aml wedi gorfod delio â gorbryder ond mae'n nodi bod ei hesgidiau cerdded yn hynod o bwysig iddi gan fod ei phryderon wedi'u lleddfu ers iddi ddechrau cerdded.

Ffynhonnell y llun, Emile Holba
Disgrifiad o’r llun,

Mae allweddi yn arwydd o breifatrwydd i Ros Mountjoy

Dywed Geri Stephenson, sy'n cael trafferth wrth gerdded, bod ei medal Ras am Fywyd yn ei hatgoffa o'i champ yn llwyddo i gerdded 5k.

I Ros Mountjoy allweddi a'u torchau yw'r peth pwysicaf gan eu bod yn ei hatgoffa o'r preifatrwydd y mae'n gallu ei gael yn ei hystafell wely.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd o ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf tan ddydd Gwener, 2 Awst.