Cynhyrchu ffrwythau a llysiau yn 'gyfle i ffermwyr'

  • Cyhoeddwyd
Ffrwythau
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 0.08% o dir ffermio Cymru sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer garddwriaeth

Ffermydd defaid a gwartheg sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o dirwedd amaethyddol Cymru, ond mae arbenigwyr yn rhagweld y gallai cynnydd amlwg fod mewn cynhyrchu ffrwythau a llysiau.

Mae hyn o ganlyniad i sawl ffactor, gan gynnwys Brexit, newid hinsawdd a chynnydd ym mhoblogrwydd figaniaeth.

Ar hyn o bryd, 0.08% o dir ffermio Cymru sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer garddwriaeth (horticulture).

Dywedodd un ffermwr sydd wedi dechrau tyfu ffrwythau wrth BBC Cymru ei fod yn credu y gallai'r arfer yma ledu drwy'r wlad.

'Polisi yswiriant'

Yn ôl Tom Higgs o Rosili, Penrhyn Gŵyr mae'n gweld ei fusnes ffrwythau newydd fel "polisi yswiriant".

"'Da ni ddim mor ddibynnol ar gymorthdaliadau, a'r pris rydyn ni'n ei gael am gig eidion a chig oen," meddai.

"Doeddwn i erioed wedi tyfu mefus tan eleni. 'Da ni wedi dysgu gwersi ond wedi cael hwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Higgs wedi agor ei fferm i ymwelwyr, ble mae modd iddynt ddewis eu ffrwythau eu hunain

Mae rhaglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru, sy'n cynghori ffermwyr, yn dweud bod modd datblygu diwydiant garddwriaeth llewyrchus.

Bu Mr Higgs yn derbyn cefnogaeth ariannol gan y rhaglen i dalu costau ymgynghorydd i helpu sefydlu ei fenter newydd.

Dywedodd Delana Davies o Cyswllt Ffermio eu bod "yn annog ffermwyr i feddwl am bethau ychwanegol i wneud gan fod ansicrwydd ar y gorwel".

Mae'r ansicrwydd yn cynnwys ofnau ynglŷn â dyfodol allforion cig ar ôl Brexit a'r galw i dorri nifer y da byw i fynd i'r afael ag allyriadau o ffermydd.

Disgrifiad,

Dywedodd Delana Davies bod "angen ffrwd ychwanegol o incwm ar ffermwyr"

Dywedodd Chris Green, o ymgynghoriaeth amaethyddol ADAS, bod rhannau o'r wlad lle byddai'n rhaid i ffermwyr "gadw at gig eidion a defaid" ond bod "llawer o botensial" i ddatblygu garddwriaeth.

"Dydw i ddim yn gweld y naid yn bosib i gynhyrchu nwyddau i archfarchnad, ond mae llawer o botensial i ddatblygu'r elfen dwristiaeth i ffermydd," meddai.

"Gyda'r cyfryngau cymdeithasol rydyn ni wedi gweld diddordeb mawr ymhlith y cyhoedd yn dod allan i ffermydd ac mae angen i ni geisio manteisio ar hynny."

Yn ogystal â ffrwythau a llysiau, dywedodd Mr Green y gallai ffermydd arallgyfeirio a chynhyrchu cnydau arbenigol fel coed Nadolig a phwmpenni, gan ei ddisgrifio fel "cyfle gwych".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Green bod "llawer o botensial" i ddatblygu garddwriaeth

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y tir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau garddwriaethol, ac eithrio tyfu tatws, wedi cynyddu o 1,301 hectar yn 2010 i 1,599 hectar yn 2018..

Dros yr un cyfnod cynyddodd y tir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer perllannau a thyfu ffrwythau 25% i 790 hectar.