'Hinsawdd o ofn', medd cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Richard B DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Yr Athro Richard B Davies ei benodi'n Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe yn 2003

Ychydig ddyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo, mae cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe yn dweud y bydd yn brwydro i adfer ei enw da, gan honni bod "hinsawdd o ofn" wedi datblygu yn y brifysgol ers iddo gael ei wahardd o'i waith wyth mis yn ôl.

Cafodd yr Athro Richard B Davies a Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, eu diswyddo ddydd Gwener yn sgil "camymddwyn dybryd".

Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers ei waharddiad, fe alwodd yr Athro Davies ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae'r brifysgol yn cael ei rheoli.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe bod yr Athro Davies yn "ceisio tynnu sylw oddi wrth ei ymddygiad ei hun".

Cafodd y cyn Is-Ganghellor ei ddiswyddo pedwar diwrnod cyn dyddiad ei ymddeoliad swyddogol wedi 16 mlynedd wrth y llyw.

Roedd ymhlith pedwar aelod o staff a gafodd eu gwahardd fis Tachwedd y llynedd, gan arwain at ymchwiliad mewnol a phroses ddisgyblu.

Maen nhw'n gwadu'n llwyr eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

'Dim sail'

Dywedodd yr Athro Davies nad oedd am wneud sylw am yr honiadau penodol yn ei erbyn yn sgil bwriad i apelio yn erbyn ei ddiswyddiad, ond dywedodd bod "dim sail" i unrhyw beth y mae wedi ei gyhuddo o'i wneud.

"Megis un dioddefwr rwyf i," meddai.

"Y gwir ddioddefwr yw'r gwirionedd, y gwir ddioddefwr yw'r brifysgol gyfan ac rwy'n dymuno canolbwyntio ar unwaith ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y brifysgol dros y naw mis diwethaf.

"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru a HEFCW (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r hyn sy'n mynd ymlaen ym Mhrifysgol Abertawe, ymchwiliad annibynnol i'r drefn lywodraethu, yr hyn rwy'n eu gweld fel methiannau o fewn y brifysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Marc Clement eisoes wedi siarad yn gyhoeddus gan ddweud nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le

Honnodd bod y brifysgol erbyn hyn wedi "ymffrwydro" a "thanseilio pob math o gynlluniau mawr yn y rhanbarth".

"Rwy'n clywed straeon am hinsawdd o ofn yn y brifysgol. Mae angen i'r ymchwiliad daflu goleuni ar y coridorau tywyll," meddai.

"Rwy'n wirioneddol bryderus oherwydd does gan Gymru ddim digon o brifysgolion da. Ni all fforddio cael unrhyw un o'r prifysgolion hynny'n mynd i drafferthion dybryd".

'Proses ddisgyblu fanwl'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe bod y brifysgol wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru a HEFCW gydol y broses.

"Mae'n siomedig bod Richard Davies wedi ceisio tynnu sylw oddi wrth ei ymddygiad ei hun ac ymddygiad eraill. Mae'r brifysgol yn gwadu ei honiadau yn gryf," meddai'r llefarydd.

"Nid ar chwarae bach y dechreuodd y Brifysgol y broses yma ac mae proses ddisgyblu fanwl ac annibynnol, yn unol â Gorchmynion y Brifysgol, wedi ei chynnal a dod i'r casgliad bod yna gamymddwyn dybryd, gan arwain at ei ddiswyddo".

Dywed yr Athro Davies a'r brifysgol na allan nhw gadarnhau manylion yr honiadau, ond maen nhw'n ymwneud â chynigion o ran datblygu Pentref Llesiant yn Llanelli fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Prifysgol Abertawe yn "cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel sefydliad ymchwil ac addysg ragorol".

Ychwanegodd: "O ran materion staff, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff hunanlywodraethol ac mae hyn yn parhau yn fater i'r Brifysgol, gyda'r sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael gan HEFCW fel rhan o'i arolygiaeth reoleiddiol."