Pryder Samariaid Cymru am effaith gwahardd disgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd gan Samariaid Cymru yn dweud fod tlodi yn un o'r achosion allweddol sy'n gyfrifol am wahardd plentyn o'r ysgol.
Dywed yr adroddiad fod gwahardd plentyn o'r system addysg yn gallu arwain at gylch dieflig o broblemau.
Mae'r rhain yn cynnwys risg o hunanladdiad, tlodi, unigrwydd a chamddefnydd o alcohol, problemau iechyd meddwl a digartrefedd.
Yn ôl yr elusen bu cynnydd o 51% yn nifer y rhai sy'n cael ei gwahardd yn barhaol ers 2015/16.
Mae'r Samariaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu strategaeth genedlaethol er mwyn mynd i'r afael ô'r broblem.
'Cysylltiad amlwg'
Dywed Llywodraeth Cymru mai gwahardd plentyn o'r ysgol ddylai fod y cam olaf gan ddweud eu bod nhw'n cynnig cefnogaeth i ysgolion er mwyn sicrhau mai dyna beth sy'n digwydd.
Prif neges adroddiad y Samariaid yw bod anghyfartaledd yn brif ffactor wrth wahardd plentyn o'r ysgol yn barhaol.
Mae nhw hefyd yn deud y gallai plant gafodd eu diarddel i fod yn byw gyda'r canlyniadau fwy na degawd yn ddiweddarach, gan nad oes ganddynt y sgiliau angenrheidiol i'w helpu i gael gwaith.
Dywedodd Sarah Stone, cyfarwyddwr gweithredol Samariaid Cymru: "Mae'r cysylltiad rhwng gwahardd plentyn ac anghyfartaledd yn amlwg yn achos pryder.
"Mae angen ar frys i fuddsoddi yn y broses er mwyn gallu adnabod y rhai sydd mewn peryg o wynebu cael eu gwahardd.
"Yng Nghymru, rydym yn gweithio i leihau nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i hunanladdiad. Mae llawr o'r gwaith yn ymwneud ag ymyrraeth a dod o hyd i'r rhai sydd o lefel uchel o risg yn gynnar," meddai.
"Pe bai chi allan o'r ysgol, yna gallwch golli'r unig ffynhonnell o gefnogaeth a chymuned.
"Mae angen diogelu plant a phobl ifanc rhag gweithredoedd all eu heffeithio yn negyddol."
'Peryg gwirioneddol'
Dywed y llywodraeth eu bod yn cynnig cefnogaeth i athrawon i ddeall pam fod plant â phroblemau sy'n arwain at ymddygiad heriol, a hefyd sicrhau fod addysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn cael eu cefnogi o gyfnod cynnar.
"Lle nad oes modd osgoi gwahardd plentyn, mae ein canllawiau yn dweud yn glir am y gefnogaeth y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol eu rhoi ar gyfer y plentyn dan sylw," meddai llefarydd.
Ychwanegodd eu bod hefyd yn ymgymryd â nifer o gamau i daclo tlodi.
Dywedodd David Browne o undeb athrawon yr NASUWT fod disgyblion ond yn cael eu gwahardd yn barhaol pan fod hyn yn "rhesymol".
"Rydym yn parchu'r Samariaid, maen nhw'n gwneud gwaith ffantastig, ond y realiti yw nad yw penderfyniad i wahardd yn cael ei gymryd ar chwarae bach.
"Mae yna sefyllfaoedd difrifol yn codi, yn aml pan mae yna berygl gwirioneddol i'r plentyn sy'n cael ei wahardd neu i ddisgyblion eraill neu hyd yn oed i staff."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2016