Brexit blêr yn gallu dinistro'r DU, medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones: 'Pryderus' ynglŷn ag annibyniaeth anhrefnus

Fe allai cwblhau Brexit mewn modd anhrefnus a blêr arwain at ddinistrio'r DU, yn ôl cyn brif weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Dywedodd Mr Jones fod addewid Boris Johnson ynglŷn â Brexit 'doed a ddelo' yn ei bryderu am ddyfodol y DU "yn fwy nag erioed".

"Y peth olaf mae rhywun am ei weld yw annibyniaeth anhrefnus o ran gwledydd Prydain," meddai.

Roedd Mr Jones yn siarad ar drothwy cyfarfod sydd wedi ei drefnu ar Faes y 'Steddfod ddydd Llun gan fudiad YesCymru, sy'n pwyso am annibyniaeth.

"Rwy'n credu y byddai'n dechrau yng Ngogledd Iwerddon, yna'r Alban, ac mae beth fydd ar ôl yn anghynaladwy. Beth yw e felly - Lloegr a Chymru?

"Byddai hyn yn cael ei wneud mewn modd anhrefnus a byddai hynny ddim o fudd i unrhyw un, pe bai chi o blaid annibyniaeth neu beidio," meddai Mr Jones.

"Y peth olaf fyddai rhywun am weld yw annibyniaeth anhrefnus ar gyfer gwledydd y DU."

rali Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth miloedd orymdeithio dros annibyniaeth yng Nghaernarfon

Dadl Mr Jones yw nad annibyniaeth yw'r ateb i Gymru, ac yn y gorffennol mae wedi rhybuddio fod yr anrhefn yn San Steffan yn codi diddordeb yn y pwnc yng Nghymru.

Dywedodd ei olynydd fel prif weinidog, Mark Drakeford, ym mis Gorffennaf fod ei gefnogaeth ef i'r undeb yn glir, ac nad oedd o'r farn y byddai etholwyr Cymru yn cefnogi annibyniaeth.

Mae Plaid Cymru wedi galw am refferendwm ar annibyniaeth pe bai y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ail refferendwm.

Fe wnaeth gorymdeithiau gan YesCymru ddenu torfeydd mawr yn ddiweddar, yng Nghaerdydd ym mis Mai a Chaernarfon yng Ngorffennaf.