Gwobr Eisteddfod newydd er cof am y comedïwr Gethin Thomas

  • Cyhoeddwyd
Gwobr Gethin Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwobr Gethin Thomas ei chyhoeddi yn y Sinemaes brynhawn dydd Mercher

Bydd gwobr newydd yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod 2020 er cof am y diweddar gynhyrchydd a chomedïwr, Gethin Thomas.

Fe gyhoeddodd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) y bydd yn noddi cystadleuaeth ysgrifennu sgript gomedi o'r flwyddyn nesaf ymlaen, am gyfnod o dair blynedd, gan gynnig gwobr o £400 i'r enillydd.

Yn ogystal â hynny, dywedodd TAC y bydd S4C, BBC Radio Cymru a theatrau ledled Cymru yn darllen y gwaith buddugol i "asesu posibiliadau datblygu'r deunydd yn y dyfodol".

Bu farw Gethin Thomas ym mis Awst 2017, ac fe gafodd ei ddisgrifio fel dyn a oedd "yn angerddol ac yn flaengar dros gomedi".

Ffynhonnell y llun, Nick Edwards/RIG
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gethin Thomas yn mis Awst 2017

Mewn digwyddiad ar faes y Brifwyl, dywedodd y panel bod cyfraniad Gethin Thomas yn helaeth a bod ganddo ddylanwad mawr ar gomedi Cymraeg.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: "Roedd Gethin yn aelod o Gyngor TAC am flynyddoedd, ac mae'r golled yn fawr ar ei ôl.

"Roedden ni fel Cyngor yn awyddus i'w goffáu yn y maes y gweithiodd mor ddiwyd ynddo gydol ei yrfa, sef comedi Cymraeg.

"Bu hefyd yn mentora a datblygu talent ar y sgrin a'r tu ôl i'r camera, felly mae'n bwysig fod y wobr hon yn adlewyrchu elfen o barhad ar gyfer comedi'r dyfodol."

Wrth gyhoeddi'r wobr dywedodd Rheolwr Gweithredol TAC, Luned Whelan, bod y corff wedi sicrhau arian oddi wrth eu haelodau er mwyn cynnig y wobr am dair blynedd, ond eu bod nhw'n hyderus y bydd y cylch nawdd yn cael ei ymestyn yn y dyfodol agos.