Cyhuddo pumed dyn o lofruddiaeth Harry Baker yn Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae pumed dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed yn Y Barri ym Mro Morgannwg.
Fe wnaeth Leon Clifford, 22 oed o'r Barri, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd brynhawn Mawrth.
Cafwyd hyd i gorff Harry Baker, 17, yn ardal y dociau yn Y Barri ar 28 Awst.
Mae bachgen 16 oed o Gaerdydd, dyn 21 oed o Gaerdydd a dyn 61 oed o'r Barri, sydd hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn parhau yn y ddalfa.
Mae pedwar dyn - Peter McCarthy, 36, Ryan Palmer, 33, Nathan Delafonteine, 32, a Raymond Thompson, 47 - eisoes wedi cael eu cyhuddo o lofruddio'r bachgen o Gaerdydd.
Mae dau berson arall gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019