Y Cymry yng nghanol helynt Hong Kong

  • Cyhoeddwyd
hong kongFfynhonnell y llun, S3studio

Mae cyfres newydd Benbaladr nôl ar Radio Cymru ac ymysg y cyfranwyr yn y bennod gyntaf mae dau Gymro sy'n byw mewn gwlad sydd yn y penawdau ar hyn o bryd oherwydd protestiadau chwyrn yn erbyn y llywodraeth yno, Hong Kong.

Daw James Griffiths o Ynys Môn yn wreiddiol ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl cyn symud i Shanghai, ac mae bellach yn uwch gynhyrchydd gyda CNN yn Hong Kong.

"Dwi 'di byw yn Hong Kong ers 2014. Ddes i yma jest cyn protestiadau'r Umbrella Movement," meddai James ar y rhaglen.

"Yn 2014 roedd yna lawer mwy o optimism am y dyfodol, roedd pobl yn meddwl bod 'na chance fod y protestiadau yn gallu gwneud gwahaniaeth a gwneud i'r llywodraeth ildio.

"Rŵan, does dim o optimism 2014; mae'r protestwyr yn llawer mwy nihilistic ac yn ddig. Maen nhw yn gweld y protestiadau fel cyfle olaf i ymladd yn ôl ac atal Tsieina a'r holl reolaeth o Beijing."

Dywed James fod yr awyrgylch wedi newid yn Hong Kong dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn y pum mlynedd dwi 'di bod yma, mae'r llywodraeth hefyd di newid tactics," meddai.

"Mae llawer o brotestwyr ac actifyddion wedi cael eu carcharu a mwy a mwy o restrictions 'di cael eu cyflwyno.

Pam y protestio?

"Y prif achos am y sefyllfa heddiw ydy'r extradition bill oedd y llywodraeth yn trio cyflwyno. Roedd gan lawer o bobl ofn, oherwydd byddai modd eich anfon i Tsieina i sefyll treial o dan y bil newydd.

Ffynhonnell y llun, cnn
Disgrifiad o’r llun,

James Griffiths o Ynys Môn, sy'n gweithio gyda CNN yn Hong Kong

"Mae'r bil wedi'i atal, ond mae pobl eisiau i'r llywodraeth ei dynnu nôl yn llwyr. Mae'r protestiadau hefyd wedi adio gofynion newydd, gan gynnwys ymchwiliad i greulondeb yr heddlu.

"Mae'r protestiadau wedi deffro cwynion hirdymor am ddiffyg democratiaeth wir a phroblemau economaidd a cymdeithasol.

"Dyw'r outlook ddim yn dda yn anffodus. Mae'r llywodraeth yn gwrthod gwneud unrhyw gyfaddawdu neu wrando ar ofynion y protestiadau, a does dim arwydd bod y protestwyr yn mynd i stopio unrhyw bryd yn fuan. Yr ofn ar y strydoedd yw os bydd y protestiadau yn parhau, y bydd Beijing yn defnyddio'r lluoedd arfog i dawelu'r protestiadau.

"Hydref y 1af ydi diwrnod cenedlaethol Tsieina, 70 blwyddyn ers sefydlu'r wlad. Dyw Beijing ddim eisiau i Hong Kong ddifetha'r dathliadau, ond yn fwy na dim dydyn nhw ddim eisiau creu penawdau oherwydd unrhyw crackdown. Felly, mae'n bosib y bydd Beijing yn newid tactegau i fod yn fwy cadarn ac ymosodol ar ôl dechrau Hydref, ond ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn rhagweld y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, PHILIP FONG
Disgrifiad o’r llun,

Delweddau cyffredin o Hong Kong ers i'r protestio ddechrau ym mis Mehefin eleni

Cymro sy'n datblygu rygbi yn Hong Kong

Cymro arall sy'n byw yn Hong Kong yw Rhys Blumberg o Gaerdydd. Mae Rhys yn gweithio fel pennaeth datblygiad busnes Undeb Rygbi Hong Kong.

Sut mae'r hinsawdd wleidyddol wedi effeithio ar fywyd Rhys?

"I ddweud y gwir dydy pethau heb newid gormod o ddydd i ddydd, ac mae lot o'r digwyddiadau yn digwydd ar y penwythnos - felly yn ystod yr wythnos 'di nhw ddim mor ddrwg â hynny," meddai.

"Mae'r digwyddiadau yn y llefydd mwyaf prysur, felly os chi eisiau aros i ffwrdd o'r protestiadau mae'n eitha' hawdd gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, RhysBlumberg
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Blumberg, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd

Felly beth yw'r agweddau sy'n cael ei effeithio gan y protestio?

"Y Metro yw'r peth anodd i ddelio gydag achos mae'r lle mae'n eitha' prysur a'r Metro yw'r ffordd orau i deithio," meddai Rhys.

"Pan mae'n stopio mae 'na broblem enfawr i symud o le i le. Rhyw bythefnos yn ôl symudodd y protestiadau i'r maes awyr, a greodd lawer o drafferth i bobl oedd methu gadael Hong Kong - problemau i bobl oedd yn teithio yma ar gyfer gwaith a gwyliau."

Beth yw barn y tramorwyr sy'n byw yn Hong Kong?

"Mae'n anodd dweud, achos o siarad yn blaen ar ran pobl o dramor, os mae 'na broblem enfawr yn Hong Kong fe allen ni gyd fynd adref," meddai Rhys.

"Ond mae'r bobl sy'n dod o Hong Kong yn gorfod aros yma, a dyna pam maen nhw mor benderfynol i gael beth maen nhw eisiau o ran y protestio."

Hefyd o ddiddordeb:

Gyda'r protestio ar y strydoedd dywed Rhys ei fod yn dal i deimlo'n "ddigon saff" ar strydoedd Hong Kong a'i bod yn synhwyrol cadw draw o'r llefydd lle mae rhywbeth yn debygol o ddigwydd, sy'n gallu cynnwys bomiau petrol a nwy dagrau, meddai.

"Y penwythnos yma nes i aros yn yr ardal lle dwi'n byw a nes i ddim gweld dim, es i fas a gwylio gêm rygbi Cymru, roeddwn i'n byw fel yr arfer a 'nath ddim byd effeithio arna i. Gallen ni wedi mynd i ffeindio fe, ond mae'n eithaf hawdd cadw i ffwrdd ohono fe," meddai

Gyda Chwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn agosáu oes cynnwrf o gwbl yn Hong Kong?

"Un o'r pethau ni wedi gwneud 'ma yn Hong Kong yw creu fanzone swyddogol ger yr harbwr, sef un o'r llefydd prysuraf yn Hong Kong," meddai.

"Mae'n debygol y bydd bobl o ar draws y byd yn mynd drwy Hong Kong ar y ffordd i Japan ar gyfer Cwpan y Byd, felly ni'n edrych 'mlaen i weld pobl o lefydd gwahanol. Dyna un o'r pethau pwysicaf i ni, fel Undeb Rygbi Hong Kong, a dwi'n gobeithio bydd y protestio ddim yn effeithio ar hynny, ond ar y funud mae'n anodd dweud."

Ffynhonnell y llun, Ivan Shum - Clicks Images
Disgrifiad o’r llun,

Garfan Ffiji yn dathlu ennill Pencampwriaeth saith bob ochr Hong Kong drwy drechu Ffrainc yn y rownd derfynol. 7 Ebrill, 2019

"Mae'r gystadleuaeth rygbi saith-bob-ochr yn enfawr yma. Un o'r cystadlaethau gorau yn y byd o ran rygbi. Mae 'na lot fawr o expats yn chwarae rygbi yma fel bysech yn disgwyl, ond mae 'na lot o bobl leol yn chwarae hefyd, yn enwedig merched, ac mae 'na lot o glybiau yma. Mae diddordeb mawr yn rygbi yma a ry'n ni'n gobeithio bydd y fanzone yn cynyddu hynny."