Y Cymro sy'n llysgennad yn Paraguay

  • Cyhoeddwyd
MATTHEW

Ar Ddydd Gwener, Mai 4, mae'r gyfres Benbaladr yn dychwelyd i BBC Radio Cymru am 12:30.

Un o'r gwesteion yn rhifyn cynta'r gyfres yw Matthew Hedges, Cymro Cymraeg sy'n llysgennad dros y Deyrnas Unedig yn Paraguay.

Daw Matthew o Ferthyr ac mae'n gyn-fyfyriwr yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Ers ymuno â'r Swyddfa Dramor mae wedi gweithio mewn gwledydd fel Moroco, Myanmar, Japan ac Afghanistan. Mae hefyd wedi astudio ym Mhrifysgol Princeton yn New Jersey.

Wrth siarad gydag Alun Thomas ar Benbaladr disgrifiodd Matthew beth oedd natur ei swydd:

"Rwy'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig ac rwy'n arwain ac yn bennaeth ar y llysgenhadaeth. Gellir rhannu'r swydd yn dair rhan.

"Rwy'n cyfarwyddo'r llysgenhadaeth ac ysgogi'r tîm, achos os nad yw nhw'n deall beth maen nhw'n gwneud 'sai'n gallu gwneud fy swydd i.

"Yr ail ran yw helpu Prydeiniwyr, efallai twristiaid neu bobl sy'n byw 'ma, busnesau sydd yn meddwl dod yma neu sydd yma'n barod, neu eisiau buddsoddi yma.

"Y drydedd rhan yw cynrychioli'r Deyrnas Unedig drwy gyfathrebu gyda'r Llywodraeth ynglŷn â'n safbwynt ni ar bynciau rhyngwladol, er enghraifft Syria a Rwsia a hawliau dynol, ac efallai trio perswadio nhw i gytuno efo'n safbwyntiau ni.

"Rydym yn cyfathrebu yn uniongyrchol gyda phobl Paraguay ac esbonio pwy ydyn ni a pham fod y Deyrnas Unedig yn lle da i ddod i astudio, ymweld a gwneud busnes."

Ffynhonnell y llun, DEA / G. KINER
Disgrifiad o’r llun,

Asunción: Prifddinas Paraguay, dinas â phoblogaeth o 1.5 miliwn

Mae Matthew yn byw yn y brifddinas, Asunción. Ond sut le yw Paraguay fel gwlad i'w gymharu â'i chymdogion mwy adnabyddus yn Ne America?

"Mae Paraguay yn hyfryd, mae'n wlad bert iawn. Mae'r ddinas (Asunción) yn werdd iawn, ac mae hen ardal y ddinas yn bert ofnadwy.

"Tu fas i Asunción, mae adfeilion Jeswitiaid a choedwigoedd ac mae digonedd o bethau eraill i'w gweld yno."

Democratiaeth wedi unbennaeth

"Mae Paraguay yn wlad ddemocrataidd ers 1992, pan ddaeth cyfnod yr unben Stroessner i ben. Ond yn y cyfnod democratiaeth rydym wedi cael etholiadau trefnus, fel yr oedd mis diwethaf, ond hefyd mae enghreifftiau o etholiadau a oedd efallai ddim mor drefnus. Ond erbyn hyn mae democratiaeth yn Paraguay.

"Mae'r wlad yn meddwl am ei hun falle fel ynys, er nad oes gan y wlad arfordir - i raddau mae hyn oherwydd y blynyddoedd dan yr unben ac mae hynny wedi effeithio ar bersonoliaeth y lle."

Ffynhonnell y llun, Frank Scherschel
Disgrifiad o’r llun,

Alfredo Stroessner, cyn-unben Paraguay a fu farw yn 2006

Felly sut wnaeth bachgen o Ferthyr gyrraedd y fath swydd?

"Dechreuais i yn y Swyddfa Dramor yn 1999, wedi i mi fod ym Mhrifysgol Rhydychen a mynd drwy'r broses i fod yn ddiplomydd. Yna es i o Lundain i Efrog Newydd, a dwi wedi gweithio ym Moroco, yn y Caribî, yn Japan, Burma ac yna y tro cyntaf fel llysgennad yma yn Paraguay.

"I fod yn onest yr apêl yn wreiddiol pan ddechreuais gyda'r Swyddfa Dramor oedd y cyfle i deithio.

"Yna wedi mi ddechrau yn y swydd fe welais fod y pethau sy'n bwysig i mi o ran ein gwerthoedd ni fel gwlad ac ein gwleidyddiaeth a helpu gwledydd eraill ddatblygu - roeddwn yn gallu gwneud hynny drwy'r gwaith ro'n i'n wneud."

Ffynhonnell y llun, NORBERTO DUARTE
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yna Asunción wrth i gefnogwyr Paraguay ddathlu buddugoliaeth yn erbyn Japan i gyrraedd rownd yr wyth olaf, Cwpan y Byd 2010

'Llysgennad ei Mawrhydi'

Ydy Matthew yn cael cyfle i roi geirda dros Gymru pan mae'n gweithio dramor?

"Ydw os oes angen. Rwy'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig, nid yn unig y Llywodraeth yn San Steffan.

"Yn swyddogol fy nheitl i yw Llysgennad ei Mawrhydi - dydi hynny ddim yn meddwl mod i'n cael sgwrs gyda'r Frenhines bob wythnos!

"Ond mae e yn golygu mod i'n cynrychioli'r wladwriaeth, a phopeth yn y Deyrnas Unedig - y bobl, y Llywodraeth yn San Steffan, ac os eisiau ar bwnc yn cynrychioli'r Llywodraeth yng Nghaerdydd, Caeredin neu Belfast.

Yr unig Llysgennad sy'n siarad Cymraeg?

"Does dim lot o Gymraeg yn y swyddfa - sai'n nabod yr un llysgennad arall sy'n Gymro Cymraeg.

"Ond wrth gwrs mae profiad gwahanol gen i fel person, ac rwy'n dod â'r profiad yna a phwy ydw i mewn i'r gwaith rwy'n ei wneud, mae hynny'n bwysig iawn."