Pryder am ddiogelwch aelodau clwb LHDT yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Bydd pryderon am ddiogelwch pobl ifanc sy'n mynychu clwb ieuenctid LHDT yng Nghaernarfon yn cael eu trafod mewn cyfarfod yn ddiweddarach.
Fe gafodd y clwb ei sefydlu gan elusen GISDA ym mis Ionawr 2017, ac mae yna tua 165 o aelodau.
Nod y clwb yw cefnogi pobl ifanc o'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.
Ond yn ddiweddar mae pryderon wedi codi ynglŷn â diogelwch pobl ifanc sydd yn mynychu'r clwb, a hynny bob yn ail nos Lun yng nghanolfan yr elusen yng nghanol y dref.
Dywedodd trefnwyr y clwb eu bod wedi gweld cynnydd mewn "tyndra a gelyniaeth" oddi wrth bobl ifanc o du allan i'r clwb.
'Angen teimlo'n ddiogel'
Wrth wahodd yr heddlu, gwleidyddion a swyddogion cyngor i'r cyfarfod, mae llythyr y trefnwyr yn dweud: "Rydym wedi ffonio'r heddlu nifer o weithiau.
"Mae aelodau'r clwb wedi adrodd yn ôl eu bod wedi cael eu cael eu cam-drin yn eiriol a'u harasio, yn ogystal ag iaith homoffôbig a thrawsffôbig."
Mae'r llythyr yn nodi bod ymosodiad wedi digwydd ar ôl un sesiwn yn gynharach yn y flwyddyn, a bod hynny wedi perswadio rhai aelodau i beidio a bod yn rhan bellach.
"Dylai clwb ieuenctid LHDT ffynnu yng Nghaernarfon a dylai'r oll sydd yn mynychu deimlo'n ddiogel i wneud.
"Fe ddylai pob person LHDT deimlo'n ddiogel pob amser yn y gymuned."
Ar raglen Post Cyntaf, dywedodd sylfaenydd y clwb, Aled Griffiths, bod pobl yn dod o lefydd mor bell â Chaergybi, Prestatyn, Pwllheli a Dolgellau i'r clwb, ond bod y pryderon yn gwneud i rai ystyried eto os ydyn nhw am fynychu.
"Oherwydd bod ein pobl ifanc ni mor fregus... mae geiriau'n medru bod yn bwerus iawn ac yn lle maen nhw: rhai sydd heb ddod allan i'w rhieni, ddim 'di dod allan yn yr ysgol, mae'r daith 'na rhwng y bus stop a'r drws ffrynt yn enfawr, ac yn ormod i rai gysidro a allan nhw 'neud."
Ei obaith o gynnal cyfarfod ydy y bydd y bobl ifanc yn teimlo eu bod yn bwysig a bod ganddyn nhw hawliau.
"Ddim jyst problem yn y clwb ydy hyn - mae hyn yn broblem mae'r bobl ifanc yn wynebu bob diwrnod arall hefyd."
'Ymddygiad anwaraidd'
Dywedodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn "gwbl hanfodol" bod pobl ifanc yn gallu mynychu clybiau "heb ofn bod yn destun ymddygiad anwaraidd".
"Nid oes lle yn ein cymdeithas i'r rhai sy'n ceisio lledaenu casineb.
"Mae'n arwydd o anwybodaeth ac amharodrwydd sylfaenol i ddathlu popeth sy'n dda am ein cymunedau amrywiol a chynhwysol.
"Byddaf yn mynychu'r cyfarfod pwysig yma er mwyn dangos fy nghefnogaeth i'r gwaith arbennig sy'n cael ei wneud yn GISDA i gefnogi pobl ifanc yr ardal," meddai.
Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Awst 2019
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019