'Dyw'r feirws HIV ddim yn diffinio fi'

  • Cyhoeddwyd
Antony gyda'r 'legend' Gareth Thomas yn 2012Ffynhonnell y llun, Antony Brookes
Disgrifiad o’r llun,

Antony gyda'r 'legend' Gareth Thomas yn 2012

Un sy'n gallu uniaethu gyda diagnosis HIV y cyn-seren rygbi Gareth Thomas yw Antony Brookes o Harlech. Cafodd Antony y deiagnosis pedair mlynedd yn ôl.

Mae Antony yn byw yn Brisbane, Awstralia ac yn rhedeg canolfan i bobl LHDT (LGBT). Bu'n siarad ar y Post Cyntaf, Radio Cymru, ynglŷn â byw gyda HIV.

Dyw'r feirws HIV ddim yn diffinio fi, mae'n rhan ohona'i.

Mae angen lot o ddewrder i bobl ddweud fod ganddynt HIV. Does dim problem byw gyda'r feirws - dim ond un tabled y dydd sy' angen i fyw bywyd iawn gyda HIV.

Mae pethe' wedi newid nawr ers yr 1980au neu 1990au pan oedd e'n death sentence.

Bywyd bob dydd

Dw i wedi cael y feirws ers 2015 a dw i'n iawn, ac mae'n rhan o fywyd bob dydd nawr.

Mae mwy o bobl sy'n straight yn cael y feirws na phobl hoyw. Mae'n hyll iawn fod Gareth Thomas wedi cael ei blackmailio ac wedi gorfod dweud am ei ddeiagnosis.

Ymateb i'r deiagnosis

Oedd gen i ffrindiau oedd â'r feirws hefyd felly 'oedd gen i lawer o gefnogaeth pan gefais y deiagnosis. Ond ar ôl chwe mis o'n i'n teimlo bod pethau ddim yn reit. O'n i ddim wedi delio gyda'r peth yn iawn a ddim wedi siarad amdano fe. Rhaid i'r iechyd meddwl fod yn gryf.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Shane Williams yn cyfarch Gareth Thomas wedi iddo gwblhau'r ornest Ironman ddydd Sul

Nes i ddweud wrth fy nheulu a ffrindiau agos yn syth. Ar ôl chwe mis 'nes i feddwl - pam dw i ddim yn dweud wrth y byd? Achos does dim byd yn bod arna'i.

Cyfarfod Gareth Thomas

'Dw i'n chwarae rygbi a daeth Gareth i'r Bingham Cup (twrnament rygbi i bobl hoyw) ym Manceinion yn 2012 ac mae'n gymaint o legend.

Mae llawer o ymchwil meddygol i HIV ac maen nhw mor agos i gael gwared o'r feirws yn llwyr.

'Dan ni ddim yno eto ond pan mae cure, bydd dathliadau ym mhob man.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gareth Thomas ennill 100 o gapiau dros Gymru

Hefyd o ddiddordeb