Llun eiconig Salem ar werth mewn arwerthiant fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd yn bosib cynnig am un o'r fersiynau gwreiddiol o'r llun enwog Salem fis nesaf pan fydd yn cael ei gynnwys mewn arwerthiant yng Nghaerdydd.
Mae darlun Sydney Curnow Vosper o 1901 yn dangos Siân Owen, Tyn-y-Fawnog, yn cyrraedd gwasanaeth yng Nghapel Salem yng Nghefn Cymerau ger Llanbedr yng Ngwynedd.
Rhwng £40,000 a £60,000 yw'r amcan bris, yn ôl y cwmni arwerthu Rogers Jones & Co.
Dywedodd yr arwerthwr Ben Rogers Jones y byddai'n hoffi gweld oriel neu amgueddfa'n prynu'r llun er mwyn sicrhau ei fod yn aros yng Nghymru.
Fe werthwyd y llun cyntaf un i William Hesketh Lever, perchennog cwmni Sunlight Soap.
Cafodd y ddelwedd ei mabwysiadu i farchnata'r sebon, ac roedd modd i gwsmeriaid gasglu tocynnau arbennig er mwyn prynu copi o'r darlun gyda'r canlyniad bod y llun i'w gweld mewn cartrefi ar draws Cymru.
Mae yna fân wahaniaethau rhwng y llun cyntaf a'r ail fersiwn a gafodd ei baentio ar gais brawd-yng-nghyfraith yr arlunydd, Frank James.
Roedd Mr James - cyfreithiwr ym Merthyr Tudful - wedi dotio gymaint at y llun, fe ofynnodd i Vosper greu copi manwl ohono.
Salem yw llun mwyaf eiconig ac adnabyddus y byd celf Gymreig, medd Mr Rogers Jones.
"Hyd yn oed os nad ydy pobl yn gwybod pwy ydy'r artist, neu beth yw hanes y llun, fyddan nhw'n dal yn gyfarwydd â'r ddelwedd o dŷ nain a taid, a'r printiau oedd ymhob man.
"Mae'n rhan o'r enaid Cymreig. Yn fy holl flynyddoedd o werthu celf Gymreig hwn yw'r ddelwedd fwyaf eiconig i mi ei chynnig erioed mewn ocsiwn.
"Yn bersonol, dwi'n gobeithio y bydd yn aros yng Nghymru oherwydd mae'r llall yn Lloegr ac fe fyddai'n wych iddo aros yma."
Mae Salem wedi cael ei arddangos yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd yn y gorffennol, ac mae yna gysylltiadau rhwng yr arlunydd â Chastell Cyfarthfa yn Merthyr Tudful.
Mae arwerthiant Cymreig Rogers Jones & Co yn cael ei chynnal ar 19 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019