Dyn tân, Josh Gardener, wedi marw o 'anafiadau i'w ben'

  • Cyhoeddwyd
Josh GardenerFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cym
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Josh Gardener ar ymarferiad gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub adeg y ddamwain

Clywodd cwest i farwolaeth dyn tân tra ar ymarferiad yn Afon Cleddau ei fod e wedi dioddef anafiadau difrifol i'r pen.

Bu farw Josh Gardener, 35, oedd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru mewn wrth gymryd rhan mewn ymarferiad badau achub.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar 17 Medi i Neyland wedi adroddiadau bod dau gwch wedi gwrthdaro.

Cafodd y cwest ei ohirio nes 20 Mawrth 2020 pan fydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal.

Mae ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Martin Cavaney/Lluniau Athena
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Neyland yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gwch ar 17 Medi