Lansio ymchwiliad wedi astudiaeth BBC i gyflwr endometriosis
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau seneddol wedi lansio ymchwiliad yn dilyn astudiaeth fwyaf o'i math gan y BBC i'r cyflwr endometriosis.
Mae mwy na 13,500 o ferched wedi rhannu eu profiad yn yr astudiaeth.
Dywedodd tua hanner fod y cyflwr wedi eu harwain at feddyliau hunanladdol.
Fe gyhoeddodd ASau eu bod nhw'n lansio ymchwiliad, yn dilyn canfyddiadau'r BBC.
Dywedodd menyw sydd ag endometriosis ei bod yn adnabod eraill sydd â'r cyflwr sydd wedi lladd eu hunain oherwydd diffyg cefnogaeth.
Ond dywedodd Jaimee Rae McCormack o Gaerdydd fod gobaith a'i bod wedi dod o hyd i ffyrdd o "gymryd rheolaeth yn ôl".
Colli stôn mewn dyddiau
Gall y cyflwr - lle mae celloedd fel y rhai yn leinin y groth i'w cael mewn rhannau eraill o'r corff - achosi poen cronig, rhyw poenus, iselder ysbryd ac anffrwythlondeb.
Dywedodd Endometriosis UK ar gyfartaledd ei bod hi'n cymryd 7.5 mlynedd o ddechrau'r symptomau i gael diagnosis.
Mae Jamiee wedi bod ag endometriosis ers yn 12 oed ond ni chafodd ddiagnosis nes ei bod yn 25.
Disgrifiodd y fenyw 27 oed y boen fel "cyllyll poeth yn trywanu trwof, fel tân gwyllt yn diffodd y tu mewn i mi, fel rhywbeth yn troelli ac yn ymestyn ac yn cymryd drostaf".
"Byddwn i mor sâl nes i mi golli stôn o fewn cwpl o ddiwrnodau a dod mor wan ac eiddil fel nad oeddwn i'n byw.
"Roedd fy nghorff yn dal i fod yma ond doeddwn i ddim yn gallu byw."
'Torcalonnus'
Mae hi'n dweud bod rhai o'r menywod y mae hi wedi cysylltu â nhw trwy'r cyflwr wedi lladd eu hunain.
"Mae rhai ohonyn nhw wedi mynd drwy gymryd eu bywydau eu hunain oherwydd nad oedden nhw'n gallu ymdopi mwyach ac nad oedd ganddyn nhw'r gefnogaeth gywir.
"Mae'n dorcalonnus iawn," meddai.
Mae hi eisiau i weithwyr iechyd fod â mwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr: "Mae'r proffesiwn meddygol [angen] agor eu llygaid a dysgu ychydig bach mwy.
"Os yw mwy o bobl yn cael eu hyfforddi... byddai hynny'n arbed amser, arian, a meddylfryd a bywydau pobl mewn gwirionedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019