Rowndiau rhagbrofol Euro 2021: Belarws 0-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
dathlu

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cipio buddugoliaeth bwysig oddi cartref yn erbyn Belarws yn rowndiau rhagbrofol Euro 2021.

Daeth unig gôl y gêm wedi 80 munud o chwarae wrth i Rachel Rowe ergydio'n isel i'r rhwyd.

Hon oedd gêm gyntaf Rowe i'w gwlad ers blwyddyn yn dilyn anaf i'w phen-glin.

Roedd hi'n gêm nerfus i Gymru gyda'r tîm cartref yn llwyddo i greu sawl cyfle da.

Ond wedi dweud hynny, fe wnaeth Kayleigh Green daro'r trawst i Gymru ac fe gafodd 'gôl' gan Elise Hughes ei gwrthod oherwydd camsefyll.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Cymru i'r ail safle yng Ngrŵp C - dau bwynt y tu ôl i Norwy ond pedwar pwynt o flaen Belarws yn y trydydd safle.

Dim ond enillwyr y naw grŵp sy'n sicr o gyrraedd y rowndiau terfynol, gyda'r tri thîm sy'n gorffen yn ail gyda'r record orau hefyd yn mynd ymlaen, a'r chwe thîm arall yn yr ail safle yn mynd i gemau ail gyfle.

Gyda Norwy - un o dimau cryfa'r byd - yn debyg o ennill y grŵp, mae buddugoliaeth oddi cartref yn hwb sylweddol i obeithion tîm Jayne Ludlow o gipio lle awtomatig yn y rowndiau terfynol, fydd yn cael eu cynnal yn Lloegr.