Carwyn Jones: O'r Dyn Gwyllt i artist y dannedd morfil
- Cyhoeddwyd
Mae wedi bod yn un o'r Genod Droog, ac yn Ddyn Gwyllt, ond mae Carwyn Jones o Borthmadog wedi torri cwys newydd eto bellach fel artist sy'n defnyddio'r grefft brin o gerfio ar asgwrn i greu darnau celf wedi eu hysbrydoli gan y môr.
Ar ôl treulio'r 2000au yn perfformio ar lwyfannau fel DJ Kim De Bills gyda'r band hip hop Genod Droog, erbyn 2016 roedden ni'n ei adnabod fel y dyn ar y teledu oedd yn ceisio goroesi yn yr awyr agored drwy fyw ar ddim ond ei sgiliau hela.
Erbyn hyn mae'n dweud mai "phase" oedd y Dyn Gwyllt, ond mae wedi canfod ei hun yn mynd nôl at ei gariadon cyntaf, sef cerddoriaeth, celf a hanes morwrol ei fro enedigol, meddai wrth Cymru Fyw.
Beth ydy asgerfio neu grefft 'scrimshaw'?
Steil Americanaidd ydi o o'r whaling ships - crefft y morfilwyr ydy scrimshaw. Roedden nhw'n cerfio lluniau neu'n sgwennu storis ar ddannedd neu esgyrn morfil. Mae'r Americanwyr yn dweud mai eu crefft nhw ydy hi, ond mae cerfio mewn i asgwrn yn lot hŷn na hynny - roedd y Celtiaid a'r Inuits yn gwneud hynny.
Mae'n grefft sy'n marw allan - does 'na neb arall ym Mhrydain yn gwneud hyn o be dwi'n ddeall. Mae 'na gymuned eitha' iach wrthi yn America ac yn Rwsia. Esgyrn a dannedd morfil oedd yn cael eu defnyddio yn wreiddiol, ond maen nhw'n brin iawn wrth gwrs. Ond dwi'n licio'r syniad o ypseiclo esgyrn, neu ypseiclo hen biano sy'n mynd i'r sgip. Mi fyddai'n tynnu'r allweddi oddi arni ac mi fydd y coed yn mynd i'r lle tân a'r allweddau yn mynd i wneud gwaith celf.
Dwi'n gwneud y scrimshaw efo nodwydd siarp - crafu mewn i'r asgwrn ac yna rhwbio inc i mewn i'r crafiad.
Rhaid ichdi feddwl be oedd gan y morwyr wrth law ar y pryd - cyllell boced siarp neu nodwydd i drwsio hwyliau a dyna roedden nhw'n ddefnyddio.
Oes 'na unrhyw gysylltiadau Cymreig i'r grefft?
Doedd yna ddim llawer o gysylltiadau morfilo yng Nghymru ond yng Nghaergybi a Nefyn, yn enwedig yn ystod dirwasgiad y 30au, roedd 'na bobl yn mynd allan i hela morfil.
Roedd 'na lot o hogiau Holyhead, Amlwch a Llannerchymedd yn cael eu recriwtio i fynd ar y factory ships enfawr yn Norwy. Yn yr amgueddfa fôr yng Nghaergybi mae 'na un rhan ar y stori honno - mae 'na ddannedd morfil ac artefacts oddi ar y llongau.
Mae yna enghreifftiau hefyd yn amgueddfa Milford Haven, a gafodd ei adeiladu yn bwrpasol i fod yn harbwr morfilo ar ôl y rhyfel cartref yn America.
Mi ddaru brawd hen, hen daid imi hwylio o Fangor yn yr 1800s i fynd i Massachusetts. Morwr oedd o, ac er nad ydan ni'n gwybod pam oedd o yno, i New Bedford aeth o, sef lle cafodd Moby Dick ei sgrifennu - fanno oedd y brif harbwr morfila. Doedd 'na ddim byd arall yn New Bedford i ddenu rywun i weithio heblaw am forfilod bryd hynny, felly faswn i ddim yn synnu os mai dyna pam aeth o.
Sut wnest ti gychwyn?
Nes i ddarllen amdano fo gynta' a magu mwy o ddiddordeb. Yn digwydd bod ar y pryd, oni wedi symud nôl i Port am chwe mis tra'n disgwyl i symud i dŷ yn Bethesda. Ro'n i wedi tyfu fyny 'chydig ac yn edrych ar y lle ychydig yn wahanol - ti'n cymryd lot mwy o ddiddordeb yn hanes y lle. Mae 'na tua 300 o longau wedi eu hadeiladu yn Port ei hun felly nes i ddechrau cerfio'r llongau yna ar ddarn o asgwrn.
Ydy'r môr a hanes morwrol Porthmadog yn ddylanwad cryf arnat ti?
Ydy. Mae crefft y morwr yn gyfarwydd i lot ohonan ni ym Mhorthmadog. Os oeddat ti'n mynd i gartref hen berson yn Porthmadog pan oni'n blentyn, roedd fel amgueddfa; roedd gynnyn nhw longau mewn poteli, lluniau o Patagonia, pethau roedd morwyr wedi dod nôl efo nhw fel anrhegion i'w teulu neu wedi eu creu tra roedden nhw ar y llong, mae hwnna wedi aros efo fi. A'r hyna' dwi'n mynd, mwya'n byd dwi'n fascinated efo fo.
Mae'r llong yn nodweddiadol o Port - mae yn bob man ti'n sbïo; y pybs - Pen Cei, y Ship Inn, Ship and Castle, Australia, maen nhw i gyd efo cysylltiadau morwrol.
Wyt ti wastad wedi gwneud gwaith celf?
Fel plentyn dyna sut roedd Mam a Nain yn cau ngheg i ers talwm - rhoi papur a beiro i fi ac oni'n hapus braf yn neud llun. Mi wnes i wneud o i GCSE a nes i ddim byd wedyn - dwi ddim wedi codi pensel tan i fi ddechrau asgerfio bedair blynedd yn ôl.
Mae scrimshaw gwreiddiol Fictorianaidd yn eitha' naïf a dwi'n meddwl mai'r rheswm mae ngwaith i'n gweithio ydy am mod i heb dynnu llun ers pan oni'n 15 oed - ella bod fy steil i'n dal bach yn naïf ac felly'n siwtio'r steil yna.
Dim artistiaid oedd y morwyr - roedd lot ohonyn nhw methu sgwennu felly roedden nhw'n dogfennu digwyddiadau ar yr esgyrn a'r dannedd yma a wedyn yn eu gwerthu nhw, fel arfer i dalu dyled nôl i'r llong.
Wyt ti'n dal yn 'Hogan Ddroog'?!
Dwi ddim yn Hogan Ddroog ella' - ges i frêc o ryw bum neu chwe mlynedd o'r miwsig ond dwi di dechrau nôl ers ryw hanner blwyddyn yn creu stwff electronig fel Kim De Bills a dwi wrth fy modd - dwi'n cael yr un mwynhad allan o wneud hynny ag ydw i allan o'r asgerfio.
Wyt ti'n rhywun sydd angen mynegi dy hun mewn rhyw ffordd artistig?
Mae rhaid ifi gael o - mae o fel therapi - gofynna di i unrhyw gerddor neu artist a dwi'n siŵr y byddan nhw i gyd yn cytuno - mae'n rhaid ichdi ei wneud o. Nes i ddim sylweddoli faint oni wedi methu'r miwsig a deud y gwir. Dwi'n teimlo'n lot hapusach efo fi fy hun ers dechrau potsian yn ôl.
Y tro diwetha welson ni ti oedd fel y Dyn Gwyllt ar y teledu. Wyt ti'n licio cael project newydd i dy gadw i fynd?
Ydw ond dwi'n ffeindio fy hun yn mynd nôl at yr hen bethau oni'n licio'u gwneud - dwi 'di mynd nôl at y celf a'r gerddoriaeth. Pwy a ŵyr ella pan fyddai'n 70 fyddai'n mynd nôl at y Dyn Gwyllt ac yn campio yn y coed! Ond go brin - dwi'n meddwl mai phase oedd hwnna! Ac oni isho cegin newydd hefyd ac angen y pres!
Hefyd o ddiddordeb: