Gweithiwr wedi ei ddal mewn lori sbwriel yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Depo Cibyn

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymchwiliad wedi i weithiwr gael ei ddal yng nghefn lori sbwriel yng Nghaernarfon.

Ni chafodd ei anafu, ond mae gweithwyr eraill yn dweud y gallai fod wedi marw petai'r gyrrwr wedi pwyso botwm i wasgu'r sbwriel.

Doedd y gyrrwr ddim yn gwybod fod y gweithiwr yn y lori ar y pryd.

Roedd y cerbyd yng nghanolfan ailgylchu'r cyngor yng Nghibyn pan gafodd y gweithiwr ei ddal.

Mae rhai o gasglwyr sbwriel y sir yn dweud eu bod yn poeni am safonau diogelwch oherwydd y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth.

Maen nhw'n anhapus am newid i'r patrwm gwaith - sy'n dod i rym yn Arfon fis nesaf - fydd yn golygu gweithio shifftiau byrrach dros bum diwrnod.

Bydd rhai swyddi'n diflannu drwy ddiswyddiadau gwirfoddol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cerbyd yn nepo ailgylchu'r cyngor yng Nghibyn ar y pryd

Yn ôl un gweithiwr, oedd ddim am gael ei enwi, mae patrwm tebyg sydd eisoes wedi dechrau yn Nwyfor wedi golygu fod staff "ar eu gliniau", a'u bod nhw'n methu cwblhau rhai casgliadau.

Dywedodd gweithiwr arall: "'Da ni'n poeni'n arw am y newidiadau yma.

"Rydan ni dan lot o bwysau rŵan, a 'da ni'n poeni bydd y patrwm newydd yn golygu na fydd 'na ddigon o amser i gynnal a chadw lorïau, a bydd pethau'n mynd yn waeth."

Ond dywedodd Cyngor Gwynedd fod yna "leihad amlwg" wedi bod yn nifer y cwynion gan y cyhoedd am gasgliadau wedi eu methu yn Nwyfor ers mabwysiadu'r drefn newydd.

Ychwanegodd fod nifer o siroedd eraill yn defnyddio trefn debyg, a doedden nhw ddim yn rhagweld unrhyw broblemau yn Arfon.

Bydd yr awdurdod yn adolygu'r drefn yn barhaus.