'Angen gwneud mwy' i helpu rhieni sengl i fabwysiadu

  • Cyhoeddwyd
Alaw Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alaw Jones benderfynu mabwysiadu oherwydd "fod gymaint o blant angen cartrefi"

Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am hawliau pobl sengl i fabwysiadu, yn un ôl rhiant wnaeth hynny.

Yn ôl Alaw Jones o Gaernarfon mae llawer yn meddwl "nad ydy pobl sengl yn cael mabwysiadu".

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos fod 25 o blant wedi cael eu mabwysiadu gan rieni sengl rhwng Mawrth 2017 a Mawrth 2018.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fod yna "ambell i gamsyniad ynghylch pwy all fabwysiadu" yn bodoli.

Yr wythnos hon mae'r gwasanaeth yn dathlu Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu ar hyd a lled Cymru.

Fe wnaeth Ms Jones ddewis mabwysiadu oherwydd ei bod hi'n teimlo "fod gymaint o blant angen cartrefi".

"Mae'n broses gadarnhaol ond mae wir angen fwy o bobl i fabwysiadu," meddai.

"Mae dros ddwbl y plant i faint o fabwysiadwyr sydd yna."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 310 o blant eu mabwysiadu yng Nghymru rhwng 2017 a 2018

Pan aeth Ms Jones ati i ddechrau'r broses o fabwysiadu doedd hi "ddim yn siŵr" os byddai hi'n cael gwneud fel rhiant sengl.

"Dwi'n meddwl fod o'n bwysig i roi'r neges fod mabwysiadu yn bosib i unrhyw un.

"Does dim rhaid i ti fod mewn cwpl neu yn briod. Does ddim rhaid i ti fod yn berchen ar dy dŷ.

"Mae 'na lot o stigma ynglŷn â beth sydd raid i ti fod i fabwysiadu."

Rhwng 2017 a 2018 fe gafodd 310 o blant eu mabwysiadu yng Nghymru, ond mae 350 yn parhau ar y rhestr aros.

'Amser, amynedd, sicrwydd a chariad'

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fod "ambell i gamsyniad" ynghylch pwy all fabwysiadu ond "does dim o'r fath beth ag un maint i weddu i bawb".

"Mae e' i gyd yn dibynnu ar yr unigolyn," meddai.

"Y pethau pwysicaf y gallan nhw eu cynnig i blentyn yw amser, amynedd, a sicrwydd, yn ogystal â chariad.

"Ein gobaith ni yw, trwy roi sylw i rieni sy'n mabwysiadu ac a ddaw o bob mathau o gefndiroedd, yw y gallwn helpu pobl eraill i sylweddoli'r potensial sydd ganddyn nhw i fod yn rhieni gwych a chodi'r ffôn a galw eu hasiantaeth fabwysiadu leol i ddysgu mwy."