Teyrnged clwb rygbi Nelson i Brooke Morris
- Cyhoeddwyd

Mae teyrnged wedi cael ei rhoi gan Glwb Rygbi Nelson i un o'r chwaraewyr a fu farw wythnos diwethaf.
Cafodd corff Brooke Morris ei ddarganfod yn afon Taf ger Abercynon ar 16 Hydref ar ôl iddi fynd ar goll wedi noson allan.
Cafodd Ms Morris, 22, ei gweld am y tro diwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, 12 Hydref.
Dywedodd ei chyd-chwaraewyr yn nhîm y Nelson Belles ei bod hi'n "belen o egni dibryder" a'i bod wedi gadael bwlch na ellir ei lenwi fyth.
Fe gadarnhaodd y clwb y bydd eu gêm brynhawn dydd Sadwrn yn mynd yn ei blaen "am y byddai Brooke yn caru dim byd yn fwy na gêm o rygbi."
Fore Sadwrn fe gyhoeddodd y clwb deyrnged iddi, gan ddweud ei bod "yn darw ar ac oddi ar y cae, a bod ei phersonoliaeth afieithus yn dal sylw pawb oedd yn ei chyfarfod."
"Ar ddydd Mercher, 16 Hydref, fe adawaist fwlch na fedrir ei llenwi fyth, ni fyddi yn cael dy anghofio.
"Yn 'Belle' gwreiddiol, roeddet ti'n adlewyrchu'r hyn sy'n dda mewn tîm sy'n cael ei adeiladu ar hwyl, cariad a chyfeillgarwch.
"Tra bod Clwb Rygbi Nelson a'r 'Belles' wedi aros yn ddistaw dros y dyddiau diwethaf, fe fydd y gefnogaeth a'r trugaredd o fewn y clwb, y gymuned leol ac yn ehangach yn gadael ei ôl ar bawb.
"Brooke, fe wnest ti fyw dy fywyd yn union fel y buest ti'n chwarae dy rygbi, fel pelen o egni dibryder.
"Rhed yn rhydd ferch annwyl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019