Giggs yn cyhoeddi carfan dwy gêm allweddol

  • Cyhoeddwyd
gol baleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Gareth Bale wedi chwarae ers iddo sgorio i Gymru yn erbyn Croatia fis diwethaf

Mae Ryan Giggs wedi enwi carfan bêl-droed Cymru ar gyfer y ddwy gêm olaf yn rowndiau rhagbrofol Euro 2020 yn erbyn Azerbaijan a Hwngari.

Roedd Giggs eisoes yn gwybod na fyddai Joe Rodon, David Brooks na Jonny Williams ar gael oherwydd anafiadau.

Bydd Joe Allen wedi'i wahardd ar gyfer y gyntaf o'r ddwy gêm yn Azerbaijan hefyd, ond mae yn y garfan er mwyn wynebu Hwngari.

O ystyried hynny i gyd, mae'r garfan yn un gref ar bapur, ond mae ambell anaf arall yn destun pryder cyn y gemau yn erbyn Azerbaijan ar 16 Tachwedd yn Baku ac yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd ar 19 Tachwedd.

Nid yw Gareth Bale wedi chwarae o gwbl ers anafu ei goes yn chwarae dros Gymru yn erbyn Croatia fis diwethaf, ac er bod Aaron Ramsey wedi ymddangos i'w glwb Juventus o'r fainc yn eu dwy gêm ddiwethaf, ychydig iawn o bêl-droed mae o wedi chwarae hefyd.

Er mwyn cyrraedd y rowndiau terfynol yn y gystadleuaeth, mae'n rhaid i Gymru ennill y ddwy gêm, a gobeithio hefyd na fydd Slofacia'n curo Croatia yn eu gêm nhw.

Os na fydd Cymru'n gorffen yn y ddau safle uchaf a sicrhau lle yn awtomatig, mae'n debyg y bydd ganddyn nhw gyfle arall drwy gemau ailgyfle Cynghrair y Cenhedloedd.

Y garfan yn llawn:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Stoke City); Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (Bristol City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Connor Roberts(Abertawe), Ethan Ampadu (RB Leipzig ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Tom Lockyer (Charlton Athletic), James Lawrence (St Pauli), Regan Poole (MK Dons); Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke City), Harry Wilson (Bournemouth ar fenthyg o Lerpwl), Matthew Smith (Q.P.R. ar fenthyg o Manchester City), Dylan Levitt (Manchester United), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Lincoln City ar fenthyg o Bristol City); Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke City), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Rabbi Matondo (Schalke 04), Kiefer Moore (Wigan).